Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Lisa Matthews caiff ei adnabod fel ‘Little Stepping Stones’

Cefnogi dysgu dwyieithog cynnar

Cefndir

Mae Lisa Matthews yn warchodwr plant o Lanelli. Mae'n gweithio'n annibynnol ac yn gofalu am hyd at 10 o blant, gan ddefnyddio heulfan pwrpasol ar gyfer chwarae a dysgu. 

 

Beth mae'n ei wneud yn wahanol?

Roedd Lisa'n dymuno cryfhau sgiliau dwyieithog cynnar plant a meithrin hyder wrth ddefnyddio Cymraeg syml. Mewn ymateb mae wedi cyflwyno trefn wythnosol sy'n cysylltu dysgu yn ei lleoliad â dysgu gartref. 

  • Mae pob plentyn yn mynd â llyfr ac un gair Cymraeg syml adref i'w rannu gyda'i deulu
  • Mae'r rhieni'n darllen y llyfr gyda'u plentyn ac yn ymarfer y gair gyda'i gilydd mewn ffordd naturiol a chwareus 
  • Mae'r plant yn mynd yn ôl at y geiriau yn ystod yr wythnos ac yn eu defnyddio mewn caneuon, storïau a sgyrsiau 
  • Mae'r teuluoedd yn ailadrodd y geiriau Cymraeg gartref, gan gryfhau'r cysylltiad rhwng y lleoliad a bywyd teuluol

Roedd adeiladu casgliad llyfrau amrywiol wedi cymryd amser a buddsoddiad, ond mae bellach yn cefnogi plant o oedrannau a chyfnodau gwahanol ac yn cadw'r gweithgarwch wythnosol yn ffres ac yn gyffrous. 

Effaith

  • Mae'r plant yn dangos mwy o ddiddordeb mewn llyfrau a storïau. 
  • Mae sgiliau llythrennedd cynnar wedi cryfhau drwy ddarllen yn rheolaidd gartref ac yn y lleoliad. 
  • Mae'r plant yn dangos balchder wrth ddewis eu llyfr wythnosol a'i rannu gyda'u teuluoedd. 
  • Mae'r teuluoedd wedi datblygu arferion cadarnhaol o ran darllen a dysgu ieithoedd. 
  • Mae'r plant yn dangos ymwybyddiaeth gynyddol o ddiwylliant Cymru a Chymreictod.

Dyfyniad

Mae wedi bod yn hyfryd gweld plant yn magu hyder ac yn llawn cyffro wrth iddynt rannu geiriau a storïau Cymraeg gyda'u teuluoedd gartref.