Llythyr archwiliad sicrwydd ar y cyd: Y Tîm Anableddau Dysgu Cymunedol yng Nghonwy
Gan weithio gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, gwnaethom arolygu gwaith Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Gwnaethom gynnal ein harchwiliad sicrwydd rhwng 9 ac 11 Chwefror 2026.
Mae'r tîm anableddau dysgu cymunedol hwn yn un amlasiantaethol, ac mae'r staff yn gweithio ym mhob rhan o'r awdurdod lleol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
I weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion, darllenwch yr adroddiad llawn isod.