Llythyr archwiliad sicrwydd awdurdod lleol: gwasanaethau plant Caerffili
Mae'r llythyr hwn yn disgrifio canfyddiadau ein harchwiliad sicrwydd yn ystod mis Tachwedd 2025. Gwnaethom gynnal ein harchwiliad sicrwydd rhwng 17 a 19 Tachwedd 2025.
Diben yr archwiliad sicrwydd oedd adolygu perfformiad gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol wrth arfer eu dyletswyddau a'u swyddogaethau yn unol â'r ddeddfwriaeth. Mae hyn yn ein helpu i bennu pa mor effeithiol yw awdurdodau lleol o ran cefnogi, mesur a chynnal gwelliannau i bobl.
I weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion, darllenwch yr adroddiad llawn isod.