Llythyr gwiriad gwella awdurdod lleol: Gwasanaethau plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Mae'r llythyr hwn yn crynhoi canfyddiadau ein harolygiad gwiriad gwella o wasanaethau plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Mehefin 2025.
Rydym yn ymgymryd â gweithgarwch arolygu yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; llinellau ymholi allweddol; a'r safonau ansawdd yn y Cod Ymarfer mewn perthynas â gwella gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru a pherfformiad y gwasanaethau cymdeithasol hynny. Mae hyn yn ein helpu i bennu pa mor effeithiol yw awdurdodau lleol wrth gefnogi, mesur, a chynnal gwelliannau i bobl ac mewn gwasanaethau.
I weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion, darllenwch y llythyr isod.