Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 13 Chwefror 2026
  • Newyddion

Mae Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth 2026 nawr ar agor – cwblhewch eich Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth

Rhaid i bob gwarchodwr plant a darparwr gofal plant a chwarae cofrestredig yng Nghymru a gofrestrodd cyn 31 Rhagfyr 2025 gwblhau ei Ddatganiad Hunanasesu Gwasanaeth erbyn 27 Mawrth 2026.

Mae Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth 2026 nawr ar agor. 

Sut i gwblhau eich Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth:

  • mewngofnodi i'ch cyfrif AGC Ar-lein
  • Cwblhewch y ffurflen Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth
  • Cyflwynwch eich datganiad cyn 27 Mawrth 2026

Pam mae'r Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth yn bwysig:

Mae'r wybodaeth rydych yn ei darparu yn ein helpu i gynllunio arolygiadau a darparu'r gofal cywir i'r bobl sydd ei angen fwyaf. Caiff y data o bob cwr o Gymru eu coladu, eu gwneud yn ddienw a'u cyhoeddi'n ddiweddarach yn 2026.

Pwysig: Gallai methu â chyflwyno eich Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth erbyn y dyddiad cau effeithio ar eich graddau yn y dyfodol.

Angen help?

Rydym wedi creu adnoddau i'ch cefnogi, gan gynnwys canllawiau fideo cam wrth gam a chyfarwyddiadau darluniadol. Ewch i'n tudalen canllawiau Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth i gael yr holl ddeunyddiau cymorth.

Os nad oes gennych gyfrif AGC Ar-lein, gweithredwch nawr: ewch i AGC Ar-lein neu ffoniwch 0300 7900 126 a dewiswch opsiwn 4.

Cwestiynau? Cysylltwch â ni ar agc@llyw.cymru neu 0300 7900 126.