Mae ein dull data unedig gyda Gofal Cymdeithasol Cymru yn dechrau yn 2026
Rydym yn gweithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru i ddod â dwy set o ddata ynghyd i greu un set unigol o 2026 ymlaen.
Ers lansio'r Fframwaith Perfformiad a Gwella ar gyfer gofal cymdeithasol yng Nghymru yn 2020, rydym wedi gweithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru i symleiddio'r ffordd rydym yn casglu data.
O 2026, bydd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a Gofal Cymdeithasol Cymru (GCC) yn cyflwyno proses casglu data unigol a rennir. Bydd hyn yn lle'r systemau presennol, lle mae angen cyflwyno dwy set o ddata ar wahân: y Datganiad Blynyddol i AGC a chasgliad data'r gweithlu i GCC.
Byddwn yn rhannu diweddariadau pellach ar sut y bydd hyn yn effeithio ar ddarparwyr dros y misoedd nesaf.Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein dull data unedig, cysylltwch â ni ar ciwinformation@gov.wales.