Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Meithrinfa Ddydd Pili-Pala

Dull sy'n canolbwyntio ar y plentyn wrth ddechrau yn yr ysgol

Plant yn rhedeg

Cefndir

Mae Meithrinfa Ddydd Pili-Pala ym Merthyr Tudful wedi bod yn gweithredu ers 26 o flynyddoedd ac yn gofalu am 148 o blant â thîm o 23 o staff profiadol. 

Cydnabu'r feithrinfa fod angen cymorth wedi'i deilwra'n fwy penodol ar lawer o blant, yn enwedig plant ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY), wrth symud o'r feithrinfa i'r ysgol. Heb hyn, gall rhai plant gael eu llethu gan eu hamgylchedd newydd. 

Beth mae'n ei wneud yn wahanol?

Mewn ymateb, mae'r feithrinfa wedi datblygu proses bontio sy'n canolbwyntio ar y plentyn sy'n mynd y tu hwnt i'r ymarfer safonol. Mae hyn yn cynnwys:

  • y staff yn cyfarfod â'r rhieni i greu cynlluniau gweithredu wedi'u personoli i bob plentyn
  • rhannu gwaith papur sy'n ymwneud â'r cyfnod pontio a gwybodaeth asesu â'r ysgolion mewn cyfarfodydd wyneb yn wyneb
  • staff yr ysgol yn ymweld â'r feithrinfa i arsylwi ar y plant, a staff y feithrinfa yn trefnu ymweliadau wedi'u teilwra â'r ysgol i helpu'r plant i deimlo'n gyfforddus
  • staff y feithrinfa yn darparu cymorth un i un i blant ag ADY yn ystod sesiynau setlo yn yr ysgol
  • staff yn cadw mewn cysylltiad ar ôl i'r plant ddechrau yn yr ysgol ac yn dychwelyd i gynnig cymorth os oes angen

Mae'r dull cyd-gysylltiedig hwn yn helpu'r plant i deimlo eu bod yn cael eu cefnogi, i setlo'n gyflymach, ac i ffynnu yn eu lleoliadau ysgol newydd.

Effaith ...

  • Mae'r plant, yn enwedig plant ag ADY, yn teimlo'n llai pryderus ac yn fwy hyderus
  • Mae'r ysgolion yn deall anghenion y plant a strategaethau effeithiol o'r diwrnod cyntaf
  • Mae'r plant yn setlo'n gyflym ac yn hyderus drwy drefniadau pontio graddol, wedi'u cefnogi
  • Mae plant ag ADY yn llwyddo i aros mewn lleoliadau prif ffrwd lle y byddent o bosibl wedi'i chael hi'n anodd fel arall 
  • Mae'r rhieni yn cael tawelwch meddwl o wybod bod eu plentyn yn cael cymorth wedi'i bersonoli wrth ymdopi â'r newid mawr hwn

Dyfyniad

"Gall dechrau yn yr ysgol fod yn heriol i rai plant, ond mae eu gweld nhw'n setlo, yn enwedig y rhai a fyddai o bosibl wedi'i chael hi'n anodd, yn golygu bod yr holl waith cynllunio yn werth chweil."