Muddy Puddles Forest and Coastal School
Meithrin hyder a gwydnwch drwy brofiadau chwarae mewn ysgol goedwig

Cefndir
Ysgol goedwig yng Nghonwy yw Muddy Puddles, sy'n cynnig sesiynau yn ystod y gwyliau a hanner tymor i blant rhwng pedair ac 11 oed. Wedi'i lleoli yng nghoetir Fferm Dolwen ers 2019, mae'n darparu profiadau dysgu yn yr awyr agored dan arweiniad y plentyn, lle mae'r plant yn archwilio, yn creu ac yn datblygu o fewn ethos ysgol goedwig. Mae pob sesiwn yn croesawu hyd at 15 o blant, gydag amseroedd hyblyg i rieni sy'n gweithio. Mae llawer o blant yn dychwelyd flwyddyn ar ôl blwyddyn, gan ddarganfod rhywbeth newydd bob tro.
Beth mae'n ei wneud yn wahanol?
Mae Muddy Puddles yn defnyddio ethos ysgol goedwig dan arweiniad y plentyn, gan roi rhyddid i blant archwilio'n greadigol wrth ddysgu am risg a diogelwch. Mae'r dull yn meithrin gwydnwch a hyder drwy'r canlynol:
- cynnau tân, lle mae'r plant yn cael eu hannog i gymryd cyfrifoldeb a dal ati gyda chefnogaeth pan fo angen
- heriau corfforol fel dringo coed, gweithio gyda rhaffau ar lethrau, cerdded mewn nentydd a siglenni pren
- datrys problemau mewn modd creadigol, fel arbrofi gyda deunyddiau i wneud sleidiau mwd yn gyflymach
- gweithgareddau risg-budd, gyda sgyrsiau diogelwch ac yna cyfleoedd i roi cynnig ar weithgareddau sydd o ddiddordeb iddynt
Mae pob sesiwn yn unigryw, a chaiff y gweithgareddau eu llywio gan ddiddordebau a syniadau'r plant ar y diwrnod.
Effaith ...
- Mae'r plant yn goresgyn ofnau y byddant yn mynd yn fwdlyd neu'n wlyb, gan ddod yn hyderus i ddefnyddio sleidiau mwd a golchi'n annibynnol yn y nant.
- Mae cyfranogwyr amharod yn magu dewrder i ddringo a cherdded mewn nentydd, gan ddysgu i addasu techneg ar ôl cwympo
- Mae sgiliau gwydnwch a datrys problemau yn datblygu drwy ddysgu ymarferol
- Mae'r plant yn magu hyder wrth iddynt gymryd cyfrifoldeb o amgylch tân ac offer
- Mae annibyniaeth a hunanddibyniaeth yn ffynnu
Dyfyniad
"Y peth gorau am yr ysgol goedwig yw gweld plentyn yn cyrraedd yn nerfus ac yn gadael yn fwdlyd, yn gwenu ac yn falch o'r hyn y mae wedi'i gyflawni."