Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
Dogfen HTML

Mwy na Geiriau: Canllawiau ymarfer

Arolygu ac adrodd ar y defnydd a wneir o'r ‘Cynnig Rhagweithiol’ ar gyfer y Gymraeg mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant.

Cyhoeddwyd: 11 Mai 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:
Argraffu

Cyflwyniad

Lluniwyd y canllawiau hyn ar gyfer arolygwyr a rheolwyr yn nhri thîm arolygu AGC a'r tîm cofrestru a gorfodi. Ceir cyfeiriadau at reoliadau perthnasol ar gyfer gofal plant, gwasanaethau'r Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) ac awdurdodau lleol ar ddiwedd y canllawiau.

Cafodd ‘Mwy na geiriau: Fframwaith Strategol ar gyfer Gwasanaethau Cymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol’ ei gyhoeddi yn 2016 gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cafodd gwerthusiad annibynnol o fframwaith Mwy na geiriau (Dolen allanol) ei gyhoeddi yn 2021 a chafodd fersiwn wedi'i diweddaru o gynllun gweithredu Mwy na geiriau (Dolen allanol) ei llunio.

Mae cael gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn rhan hanfodol o ofal o ansawdd da sy'n seiliedig ar hawliau ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn. Dylai camau i fabwysiadu Mwy na geiriau a'i roi ar waith mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant helpu i wella ansawdd y gofal a'r canlyniadau ar gyfer pobl sy'n byw mewn gwlad ddwyieithog. Nod Mwy na geiriau yw creu lefel uwch o gydnabyddiaeth ymhlith darparwyr gwasanaethau bod defnyddio'r Gymraeg nid yn unig yn fater o ddewis ond hefyd yn fater o angen i lawer o bobl. Mae gan ddarparwyr gwasanaethau, felly, gyfrifoldeb i ddiwallu'r anghenion hyn.

Un o nodau craidd y fframwaith yw sicrhau bod pobl y mae angen gwasanaethau cyfrwng Cymraeg arnynt yn cael ‘Cynnig Rhagweithiol’. Hynny yw, bod gwasanaeth yn cael ei ddarparu drwy gyfrwng y Gymraeg heb fod angen i rywun ofyn am hynny. Mae'n golygu bod darparwyr yn rhagweld anghenion siaradwyr Cymraeg yn naturiol. Nid ydynt yn aros i rywun ofyn am wasanaeth yn Gymraeg ond yn hytrach maent yn ymgorffori ac yn hyrwyddo'r gred bod yn rhaid ystyried y gallu i ddefnyddio'r Gymraeg, os ydych yn siaradwr Cymraeg, fel elfen greiddiol o'ch gofal ac nid fel opsiwn ychwanegol.

Mae darparu ‘Cynnig Rhagweithiol’ yn golygu creu'r amgylchedd cywir lle mae plant/pobl yn teimlo eu bod wedi'u grymuso ac yn hyderus y caiff eu hanghenion eu diwallu. Mae gan bawb sy'n darparu gwasanaethau gofal i bobl a'u teuluoedd ledled Cymru gyfrifoldeb i ddarparu'r ‘Cynnig Rhagweithiol’ i siaradwyr Cymraeg ac i sicrhau bod unigolion wrth wraidd gwasanaethau. Mae hefyd yn golygu cydnabod a hyrwyddo diwylliant Cymru, nid dim ond yr iaith Gymraeg.

Rydym yn gwybod y gall y term ‘cynnig rhagweithiol’ fod yn ddryslyd i'r cyhoedd ac i ddarparwyr. Mae siarad/ysgrifennu am hyrwyddo'r Gymraeg a diwylliant Cymru yn gliriach, ac rydym yn asesu i ba raddau y mae darparwyr ac awdurdodau lleol yn bwrw ati i wneud hyn, a'r camau y maent yn eu cymryd. 

Mae darparu Cynnig Rhagweithiol yn ymwneud â hawliau pobl. Pan fydd pobl yn cyfathrebu'n well, yna mae'n fwy tebygol y caiff eu hawliau eu parchu a'u diogelu. Mae hyn yn bwysig ym mhob agwedd ar fywyd ond hyd yn oed yn fwy felly ar adegau anodd ym mywydau pobl, er enghraifft, os ydynt yn cael eu hasesu o dan y Ddeddf Galluedd Meddyliol neu'n symud i gartref gofal, yn cael gofal mewn lleoliad gofal plant neu'n rhan o weithdrefnau amddiffyn plant.

Gall pawb sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant wneud gwahaniaeth drwy ofyn iddyn nhw eu hunain “beth galla i ei wneud er mwyn helpu i wella'r ddarpariaeth Gymraeg ac er mwyn hyrwyddo diwylliant Cymru?”.

Gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr.

Nid yw hyn yn golygu bod yn rhaid i bawb fod yn rhugl yn y Gymraeg. Mae'r gallu i ddweud tipyn bach yn Gymraeg yn bwysig – gan gynnwys geiriau o gysur neu gynnig “paned”. Nid faint o eiriau Cymraeg rydych chi'n eu gwybod sy'n bwysig, ond eich bod yn eu defnyddio. Hyd yn oed os nad ydych yn siarad Cymraeg, gall rhywfaint o ddealltwriaeth o anghenion siaradwyr Cymraeg fod yn werthfawr iawn.

Rôl AGC wrth hyrwyddo'r Gymraeg a diwylliant Cymru

Ar y cam cofrestru

Dylai pob darparwr gofal gynnwys gwybodaeth am y gwasanaethau y gellir eu darparu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ei Ddatganiad o Ddiben.

Yn ystod y cyfweliad person addas ag Unigolion / Personau Cyfrifol, dylid eu holi am eu dealltwriaeth o'r Cynnig Rhagweithiol a sut y bydden nhw/y gwasanaeth yn ei hyrwyddo. Pan fyddwn yn siarad â Phersonau â Chyfrifoldeb, dylid eu hannog nhw hefyd i ddeall a hyrwyddo'r Cynnig Rhagweithiol.

Wrth adolygu perfformiad awdurdodau lleol

Fel rhan o bob arolygiad a gwiriad sicrwydd, byddwn yn adolygu'r ‘Cynnig Rhagweithiol’. Mae hyn yn golygu y byddwn yn ystyried y dystiolaeth a gasglwyd yn ystod arolygiadau er mwyn llunio barn yn yr adroddiad neu'r llythyr yn nodi i ba raddau y mae awdurdodau lleol yn hyrwyddo'r ‘Cynnig Rhagweithiol’ ar gyfer y Gymraeg. Dim ond os caiff ei nodi fel maes i'w wella y byddwn yn ei ystyried fel rhan o Wiriadau Gwella. Byddwn hefyd yn ystyried y ‘Cynnig Rhagweithiol’ fel rhan o'n gweithgarwch perfformiad ac adolygu parhaus (e.e. cyfarfodydd blynyddol â Chyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol a gwaith ymgysylltu IM).

Wrth arolygu gwasanaeth rheoleiddiedig

Mae ein fframweithiau arolygu yn cynnwys yr angen i adrodd ar b'un a yw gwasanaeth yn darparu'r ‘Cynnig Rhagweithiol’ ar gyfer y Gymraeg.

Wrth gynllunio arolygiad, ystyriwch y Datganiad o Ddiben, y Datganiad Hunanasesu Gwasanaeth neu'r Datganiad Blynyddol - beth mae'n ei ddweud am y ‘Cynnig Rhagweithiol’ ar gyfer y Gymraeg?

Mae amrywiaeth o ffynonellau tystiolaeth y dylid eu ystyried yn ystod arolygiad. Er enghraifft, arsylwadau, trafodaethau â phlant/pobl, teuluoedd a staff a gwaith craffu ar gynlluniau personol neu ddogfennau eraill.

Rhaid i arolygwyr benderfynu a yw'r gwasanaeth yn darparu'r ‘Cynnig Rhagweithiol’ a dylent ystyried y dystiolaeth yn y bedair thema fel y nodir yn ein fframweithiau arolygu/canllawiau graddau a chanllawiau iechyd a gofal cymdeithasol.

DS. Dylai pob darparwr gofal gynnwys gwybodaeth am y gwasanaethau y gellir eu darparu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ei Ddatganiad o Ddiben. Os nad yw'r Datganiad o Ddiben yn ystyried y Gymraeg o gwbl, dylid cynnwys hynny yn yr adroddiad arolygu o dan y thema arweinyddiaeth.

Yn ogystal â'r enghreifftiau isod, cyfeiriwch at Mwy na geiriau – Pecyn Gwybodaeth (Dolen allanol) Gwireddu'r Cynnig Rhagweithiol sy'n cynnwys enghreifftiau o ‘Sut mae gweithredu'r Cynnig Rhagweithiol yn edrych?’.

Noder nad oes disgwyl i ddarparwyr wneud popeth a restrir isod er mwyn gweithio tuag at/darparu'r ‘Cynnig Rhagweithiol’.

Gellir darparu'r ‘Cynnig Rhagweithiol’ mewn sawl ffordd wahanol ac nid oes angen gwario llawer o arian. Gall fod yn anodd mewn rhai ardaloedd am fod prinder siaradwyr Cymraeg, ond mae gan bobl ddi-Gymraeg rôl i'w chwarae wrth ddarparu'r ‘Cynnig Rhagweithiol’ hefyd.

Mae'n bwysig cydnabod ymdrechion darparwyr ac ystyried amgylchiadau lleol. Mae angen i ni fod yn gymesur ac yn rhesymol.

Enghreifftiau ar gyfer y themâu

Llesiant

  • Mae'r plant yn ymgysylltu'n hawdd â'u ffrindiau a'r ymarferwyr yn Gymraeg ac yn Saesneg
  • Er mai Saesneg yw iaith y feithrinfa, roedd plant yn bresennol a oedd yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf. Roedd y plant hyn yn cael eu hannog i siarad Cymraeg ac roedd yr ymarferwyr yn eu cefnogi i wneud hynny
  • Roedd llesiant y bobl yn well am fod eu hanghenion Cymraeg yn cael eu deall a'u diwallu
  • Mae hwn yn wasanaeth dwyieithog lle roedd y staff yn siarad â'r bobl yn Gymraeg ac yn Saesneg yn dibynnu ar eu hanghenion unigol

Gofal a Datblygiad/Cymorth

  • Mae'r bobl/y plant yn cael gofal gan staff a all ddiwallu eu hanghenion Cymraeg.
  • Mae asesiadau, dogfennau gofal a pholisïau, er enghraifft, ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Arweinyddiaeth a Rheolaeth

  • Mae'r bobl/y plant yn derbyn gwasanaethau lle mae'r bobl sy'n rhedeg y lleoliad/uwch-reolwyr yn hyrwyddo ac yn cefnogi darpariaeth cyfrwng Cymraeg o fewn y lleoliad.
  • Caiff anghenion Cymraeg eu hadolygu'n rheolaidd ac fel rhan o'r adolygiad blynyddol o ansawdd y gofal.
  • Mae prosesau recriwtio, cyfleoedd dysgu a datblygu, strwythurau staffio a rotas yn ystyried sgiliau Cymraeg y staff.
  • Mae arweinyddiaeth gadarn er mwyn sicrhau bod pobl yn cael gwasanaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Yr Amgylchedd

  • Mae'r bobl yn byw mewn amgylchedd sy'n ystyried eu hanghenion Cymraeg. Mae arwyddion Cymraeg a Saesneg o amgylch y safle.
  • Mae cyfarpar a deunyddiau ar gael i'r bobl/y plant sy'n briodol i'w hanghenion Cymraeg.

Cofnodi canfyddiadau yn yr adroddiad arolygu

O dan ‘Disgrifiad o'r gwasanaeth’ ar ddechrau'r adroddiad, ychwanegwch frawddeg fer ar y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Ydy'r gwasanaeth hwn yn hyrwyddo'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru?

Diffiniad o wasanaeth sy'n darparu'r Cynnig Rhagweithiol

Mae'r gwasanaeth hwn yn rhagweld, yn nodi ac yn diwallu anghenion Cymraeg a diwylliannol pobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth, neu a all ei ddefnyddio.

Diffiniad o wasanaeth sy'n 'gweithio tuag at'

Mae'r gwasanaeth hwn yn gwneud cryn ymdrech i hyrwyddo defnydd o'r Gymraeg a diwylliant Cymru neu mae'n gweithio tuag at fod yn wasanaeth dwyieithog. 

Diffiniad o wasanaeth nad yw'n darparu ‘Cynnig Rhagweithiol’

Nid yw'r gwasanaeth hwn yn gwneud cryn ymdrech i hyrwyddo defnydd o'r Gymraeg a diwylliant Cymru. 

Mae enghreifftiau o ‘gryn ymdrech’ yn cynnwys tystiolaeth o'r canlynol

  • Awdurdod lleol yn darparu siaradwyr Cymraeg pan fo'n cysylltu â phobl ar adegau arwyddocaol fel cyfarfodydd, asesiadau ac adolygiadau diogelu
  • Asesiadau cyn derbyn a pharhaus darparwr yn cynnwys anghenion iaith
  • Cofnodi gwybodaeth am iaith a chlustnodi staff sy'n siarad Cymraeg i weithio gyda phlant/pobl Cymraeg
  • Defnyddio'r Gymraeg fel mater o drefn yn ystod gweithgareddau dyddiol
  • Tystiolaeth bod awdurdodau lleol yn ystyried y Gymraeg wrth gomisiynu a chynllunio'r gweithlu
  • Darparu gweithgareddau fel mater o drefn drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog.
  • Dathlu gweithgareddau diwylliannol – gwyliau, Dydd Santes Dwynwen, ffigurau o hanes Cymru; chwedlau Cymraeg, Eisteddfodau, digwyddiadau chwaraeon, bwyd a cherddoriaeth.
  • Cysylltiadau cymunedol – Mae cysylltiadau â'r gymuned leol er mwyn hyrwyddo profiadau diwylliannol ac ieithyddol. Er enghraifft, gwahodd ymwelwyr dwyieithog i'r lleoliad, gofyn i gapeli/corau ddod i'r lleoliad er mwyn cynnal gwasanaethau yn Gymraeg/canu caneuon Cymraeg; trinwyr gwallt, athrawon ioga sy'n siarad Cymraeg; adnoddau ar hanes lleol ac ati
  • Annog staff i siarad Cymraeg, helpu staff i gael hyfforddiant Cymraeg naill ai ar-lein neu drwy drefniadau mwy ffurfiol;
  • mae'r Gymraeg i'w gweld ym mhob rhan o'r lleoliad - labeli dwyieithog, staff yn gwisgo bathodynnau, laniardau
  • Adnoddau Cymraeg – gemau, llyfrau, posteri, papurau newydd, defnyddio'r cyfryngau ac ati S4C, Radio Cymru, gwefannau, podlediadau a phapurau newydd a chylchgronau Cymraeg ar gael
  • Dogfennau dwyieithog – unrhyw wybodaeth i'r cyhoedd e.e. Datganiad o ddiben, llawlyfrau, gwefan, polisi cwyno, hysbysiadau, bwydlenni
  • Ymdrechu'n barhaus i wneud mwy o ddefnydd o'r Gymraeg gan gynnwys cynllunio'r gweithlu a recriwtio

Y Cynnig Rhagweithiol a graddau

Os nad yw gwasanaeth yn gweithio tuag at ddarparu'r Cynnig Rhagweithiol ac nad yw'n gwneud ymdrech sylweddol i wneud hynny, dylid meddwl yn ofalus cyn rhoi gradd ardderchog am lesiant, gofal a chymorth/datblygiad neu arweinyddiaeth.

Canllawiau ac adnoddau

Deddfwriaeth berthnasol

Gofal plant a chwarae – rheoliadau a Safonau Gofynnol Cenedlaethol

Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010
Rheoliad 15 (1) (ch) – Datganiad o ddiben
Rheoliad 20 (1) (b); 7 (a) a (b) Diogelu a hyrwyddo lles
Rheoliad 27 (a) a (b) Staffio
Rheoliad 29 (3) (a) a (b) Cyflogi staff
Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed
SGC 1.2 Datganiad o ddiben
SGC 3.1 a 3.3 Asesu
SGC 4 4.1, 4.2, 4.3 Diwallu anghenion unigol
SGC 6.1 Gweithio mewn partneriaeth â rhieni
SGC 7.1 Cyfleoedd i chwarae a dysgu

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Mae darparu ‘Cynnig Rhagweithiol’ yn ffordd o ymddwyn sy'n adlewyrchu gwerthoedd craidd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, i roi'r unigolyn wrth wraidd gwasanaethau.

Adran 17 yn Rhan 2 - Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol: Darparu gwybodaeth, cyngor a gwasanaeth cymorth dwyieithog. Bydd hyn yn ei gwneud yn hawdd i bawb gael gwybodaeth a chyngor clir a pherthnasol ynghylch yr holl wasanaethau sydd ar gael yn yr ardal. Bydd hyn yn helpu pobl i wneud penderfyniadau am y cymorth sydd ei angen arnynt i fyw bywyd fel y dymunant. Bydd y gwasanaeth hwn yn groesawgar ac yn gefnogol er mwyn helpu pobl i ddod o hyd i atebion yn gynnar. Bydd y gwasanaeth hwn yn wasanaeth ataliol ynddo'i hun.

Rhan 4 Cod Ymarfer (Diwallu Anghenion) - "[mae hyn yn golygu y] dylai’r awdurdod lleol fod yn rhagweithiol yn ei ddull ac y dylid gofyn i’r unigolyn pa iaith yr hoffai ei defnyddio ar ddechrau’r broses". Sicrhau bod anghenion iaith pobl yn cael eu cofnodi ar systemau data a sicrhau bod pob gwasanaeth a ddarperir yn y dyfodol yn ystyried anghenion iaith.

Caiff gwaith asesu ac Asesiadau Cynllunio Gofal eu cyflawni yn y ffordd orau i ddiwallu anghenion unigolyn. Mae'r ffocws ar yr hyn sy'n bwysig i'r person a sut y gallant ddefnyddio eu cryfderau a'u hadnoddau eu hunain i wneud y pethau hynny. Mae gwaith asesu yn bartneriaeth rhwng y person a'r gweithiwr proffesiynol. Gall partneriaid gwahanol asesu person ar yr un pryd. Gall un corff gwblhau'r asesiadau hyn ar ran cyrff eraill.

Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Rheoliad 24: Iaith a chyfathrebu

(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gymryd camau rhesymol i ddiwallu anghenion iaith unigolion.

(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau y darperir mynediad i unrhyw gymhorthion a chyfarpar sy’n angenrheidiol i unigolyn i hwyluso’r ffordd y mae’r unigolyn yn cyfathrebu ag eraill.

Canllawiau statudol: Mae darparwyr gwasanaethau yn cynnig neu'n gweithio tuag at gynnig gwasanaeth Cymraeg yn rhagweithiol i unigolion sy'n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf.

Canllawiau ar gyfer llunio datganiad o ddiben Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Atodlen 2, Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017: Yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei chynnwys mewn datganiad o ddiben

Mae’r wybodaeth y mae’n ofynnol ei chynnwys mewn datganiad o ddiben fel a ganlyn

a) manylion ynghylch sut y bydd y darparwr yn diwallu anghenion iaith a chyfathrebu unigolion, gan gynnwys drwy gyfrwng y Gymraeg;

Mae Adran 4A o'r templed ar gyfer Datganiad o Ddiben yn cynnwys:

Sut y darperir y gwasanaeth (gwasanaethau llety a gwasanaethau cymorth cartref yn unig)

b) Safon y gofal a'r cymorth

Bydd angen i hyn, pan fo'n briodol, ddisgrifio sut bydd y gwasanaeth yn cynorthwyo pobl i wneud y canlynol:

  • cynnal eu hunaniaeth ieithyddol, ddiwylliannol a/neu grefyddol;

c) Anghenion iaith a chyfathrebu'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth Dylai'r adran hon hefyd ddisgrifio sut y bydd y darparwr yn diwallu anghenion iaith a chyfathrebu pobl, gan gynnwys i ba raddau y mae'r gwasanaeth yn darparu ar gyfer cynnig y Gymraeg.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

Mae'r Ddeddf yn dweud y dylid rhoi ystyriaeth ddyledus i'r Gymraeg wrth bennu a chyflawni amcanion llesiant, sy'n adlewyrchu ei statws swyddogol yng Nghymru a'r nod llesiant cenedlaethol o sicrhau bod y “Gymraeg yn ffynnu”. Lle caiff canlyniadau penodol eu nodi fel blaenoriaethau e.e. hyrwyddo neu warchod yr iaith, neu sicrhau bod digon o wasanaethau dwyieithog ar gael i ddiwallu anghenion lleol, dylai'r rhain gael eu hystyried wrth bennu amcanion llesiant.

Yn achos awdurdodau lleol, bydd safonau hyrwyddo yn gosod dyletswydd ar awdurdodau (os bydd y Comisiynydd yn gorchymyn hynny) i wneud cynlluniau strategol er mwyn hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg a chynyddu, neu o leiaf gynnal, nifer y siaradwyr yn yr ardal. Bydd y dyletswyddau hyn yn rhoi cyfrifoldeb ar gyrff i ystyried eu cyfraniad at sicrhau y gall y Gymraeg ffynnu yn y dyfodol.

Mesur y Gymraeg 2011 a Safonau'r Gymraeg

Mae safonau'r Gymraeg yn hyrwyddo ac yn hwyluso'r Gymraeg, ac yn sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg yng Nghymru.