Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Newid Mwyaf Sylweddol: Defnyddio profiad bywyd i gefnogi dysgu a gwella

Canfu'r arolygwyr fod Castell-nedd Port Talbot yn rhoi profiad bywyd wth wraidd gweithgarwch gwella

Cyhoeddwyd: 10 Medi 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:
Argraffu

Cyflwyniad

Yn ystod archwiliad sicrwydd AGC o wasanaethau plant yng Nghastell-nedd Port Talbot, canfu'r arolygwyr ymrwymiad cryf i ymarfer sy'n seiliedig ar gryfderau a sicrhau bod gan blant, teuluoedd a gofalwyr lais mewn penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau. Roedd ymarferwyr yn defnyddio sgyrsiau “yr hyn sy'n bwysig” yn rheolaidd i ddeall profiadau'r bobl a sicrhau bod eu barn yn llywio gwaith asesu, cynllunio ac adolygu.

Canfu'r arolygwyr hefyd fod arweinwyr wedi ymgorffori trefniadau sicrhau ansawdd a dysgu a oedd yn seiliedig ar ystod o dystiolaeth i gefnogi gwelliannau. Roedd hyn yn cynnwys y defnydd o straeon Newid Mwyaf Sylweddol, a oedd yn cynnig ffordd i blant, teuluoedd, gofalwyr ac ymarferwyr rannu profiadau o'r hyn a oedd wedi gwneud y gwahaniaeth mwyaf iddynt a pham.

Beth wnaethon nhw

Gwnaeth Castell-nedd Port Talbot gynnwys straeon Newid Mwyaf Sylweddol fel rhan o'i ddull ehangach o ddysgu a gwella. Clywodd yr arolygwyr sut roedd straeon yn cael eu casglu oddi wrth bobl â phrofiad bywyd o wasanaethau a'u hystyried drwy Baneli Straeon a oedd yn cynnwys ymarferwyr, uwch-arweinwyr, aelodau etholedig a phartneriaid.

Nid casglu adborth yn unig oedd y pwrpas. Roedd yr awdurdod lleol yn defnyddio'r straeon i ddeall sut roedd pobl yn profi gwasanaethau, yr hyn roedd pobl yn ei werthfawrogi, a beth y gellid ei ddysgu o'u profiadau. Roedd yn trafod themâu a oedd yn deillio o'r straeon hyn ynghyd â rhagor o wybodaeth am sicrhau ansawdd i gefnogi prosesau myfyrio, dysgu a datblygu gwasanaethau.

Roedd yr arolygwyr hefyd yn clywed sut roedd straeon Newid Mwyaf Sylweddol yn cael eu defnyddio ar lefel strategol, gydag uwch-arweinwyr yn goruchwylio gwersi a oedd yn deillio o'r broses ac yn ystyried sut y gallai hyn lywio datblygiadau yn y dyfodol.

Pam roedd yn llwyddiannus

Nid y defnydd o straeon Newid Mwyaf Sylweddol ei hun yw'r ymarfer gwerth ei rannu, ond y ffordd y mae wedi cael ei ymgorffori yn niwylliant ehangach y sefydliad.

Gwelodd yr arolygwyr ddiwylliant a oedd yn seiliedig ar gryfderau lle roedd plant, teuluoedd a gofalwyr yn cael eu clywed a lle roedd eu barn yn llywio cynlluniau a phenderfyniadau. Roedd arweinwyr yn weladwy ac yn hawdd mynd atynt, roedd ymarferwyr yn teimlo eu bod yn cael ymddiriedaeth a chymorth, ac roedd ffocws clir ar ddysgu a gwella.

Yn y cyd-destun hwn, roedd Newid Mwyaf Sylweddol yn cynnig ffordd ymarferol o ymgorffori profiad bywyd mewn trafodaethau am ddatblygu'r gwasanaeth. Yn hytrach na thrin straeon fel adborth ar wahân, roedd yr awdurdod lleol yn eu defnyddio ynghyd ag archwiliadau, adolygiadau thematig a ffynonellau gwybodaeth eraill i ddeall effaith gwasanaethau yn well.

Roedd y dull yn adlewyrchu ymrwymiad ehangach yr awdurdod i lais a rheolaeth, cydgynhyrchu a dysgu o brofiad bywyd.

Y gwahaniaeth a wnaeth

Canfu'r arolygwyr fod Castell-nedd Port Talbot yn rhoi profiad bywyd wth wraidd gweithgarwch gwella. Roedd straeon Newid Mwyaf Sylweddol yn helpu arweinwyr ac ymarferwyr i ddeall gwasanaethau o safbwynt y bobl a oedd yn cael y gwasanaethau hynny ac yn rhoi cipolwg nad oedd bob amser yn bosibl ei gael drwy ddata perfformiad yn unig.

Roedd y straeon a adolygwyd yn ystod yr arolygiad yn tynnu sylw at ba mor bwysig oedd cydberthnasau llawn ymddiriedaeth ag ymarferwyr, y teimlad bod eraill yn gwrando arnynt, cael cymorth ymarferol a chael cymorth drwy gyfnodau anodd yn eu bywyd. Roeddent hefyd yn tynnu sylw at yr heriau y mae teuluoedd yn eu profi o hyd, gan roi cyfleoedd ar gyfer dysgu a gwella.

Roedd y straeon yn rhoi dealltwriaeth gyfoethocach i arweinwyr ac ymarferwyr o'r hyn oedd bwysicaf i'r bobl. Roeddent yn helpu i symud trafodaethau y tu hwnt i holi a oedd gwasanaeth wedi cael ei ddarparu i ddeall pa wahaniaeth roedd y cymorth wedi'i wneud.

Clywodd yr arolygwyr sut roedd gwersi o straeon yn llywio trafodaethau am ymarfer, datblygiadau i'r gwasanaeth a blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol. Roedd hyn yn cynnig ffordd strwythuredig o sicrhau bod profiadau plant, teuluoedd a gofalwyr yn cyfrannu at ddysgu a gwella drwy'r gwasanaeth cyfan.

Pam mae hyn yn ymarfer gwerth ei rannu

Mae llawer o awdurdodau lleol yn ceisio adborth gan blant, teuluoedd a gofalwyr. Y peth arwyddocaol yng Nghastell-nedd Port Talbot oedd sut roedd profiadau bywyd wedi'u hymgorffori yn y trefniadau dysgu a gwella presennol.

Nid y defnydd o'r fethodoleg Newid Mwyaf Sylweddol ei hun yw'r ymarfer gwerth ei rannu ond sut roedd yr awdurdod lleol yn cysylltu profiadau pobl â threfniadau sicrhau ansawdd, myfyrio a datblygu gwasanaethau. Drwy wneud hynny, roedd yn creu llwybr ychwanegol i ddeall yr hyn a oedd yn bwysig i'r bobl a sicrhau bod eu profiadau yn llywio gwersi ar lefelau ymarfer a strategol.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am sut roedd Castell-nedd Port Talbot yn defnyddio Newid Mwyaf Sylweddol, cysylltwch â:

Melanie Weaver

Rheolwr Perfformiad, Ansawdd ac Ymarfer

Gwasanaethau Plant Castell-nedd Port Talbot

E-bost: m.weaver@npt.gov.uk

Mae Melanie yn arwain swyddogaethau perfformiad, sicrhau ansawdd a gwella ymarfer yr awdurdod ac mae wedi cefnogi'r gwaith o ddatblygu ac ymgorffori'r dull Newid Mwyaf Sylweddol o fewn fframwaith sicrhau ansawdd a dysgu Castell-nedd Port Talbot.

Ceir rhagor o wybodaeth am waith Castell-nedd Port Talbot ar y Newid Mwyaf Sylweddol yn fideo Gofal Cymdeithasol Cymru sy'n cynnwys sut mae'r awdurdod yn dysgu ac yn gwella yn seiliedig ar straeon.

Gwyliwch y fideo