Oakhill: Defnyddio technoleg ddigidol i gefnogi cof, hunaniaeth a chysylltiad
Mae Oakhill, cartref gofal i oedolion ag anafiadau i'r ymennydd, wedi cyflwyno codau QR rhyngweithiol i wella cyfathrebu, ymgysylltu, hygyrchedd gwybodaeth a chymorth cof i breswylwyr sy'n byw gydag anafiadau caffaeledig i'r ymennydd.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gwbl hygyrch
Cefndir
Mae Oakhill, sy'n rhan o Grŵp Accomplish yn Abertawe, yn darparu gwasanaeth adsefydlu arbenigol i unigolion sy'n byw gydag anafiadau caffaeledig i'r ymennydd. Mae'r gwasanaeth wedi bod yn gweithredu ers dros 20 mlynedd, gydag achrediad Headway ers 2015.
Mae Oakhill yn hyrwyddo dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac ar gryfderau, gan ganolbwyntio ar annibyniaeth, adsefydlu, gweithgarwch ystyrlon ac ymgysylltu cymunedol. Mae lolfeydd cymunedol, cyfleusterau cegin a gerddi ar gael i'r preswylwyr, ynghyd â chyfleoedd i gymryd rhan ym mywyd y gymuned leol, gan gynnwys ymweld â siopau, bwytai a chyfleusterau hamdden.
Mae tîm profiadol a hirsefydledig o staff yn adnabod y preswylwyr yn dda, gan eu helpu i gyflawni nodau personol a datblygu sgiliau byw bob dydd wrth eu pwysau.
Yr Ymarfer
Cyflwyno technoleg cod QR
Mae Oakhill wedi cyflwyno technoleg cod QR ym mhob rhan o'r cartref i wella cyfathrebu, ymgysylltu, hygyrchedd gwybodaeth a chymorth cof i breswylwyr sy'n byw gydag anafiadau caffaeledig i'r ymennydd. Mae codau QR wedi'u gosod o amgylch y cartref, a phan gânt eu sganio gan ddefnyddio ffôn clyfar neu lechen, maent yn arwain at ystod o gynnwys digidol sydd wedi'i deilwra at wahanol ddibenion a chynulleidfaoedd.
Sut mae'n Gweithio yn ymarferol
Caiff y codau QR eu defnyddio mewn sawl ffordd:
Darperir gwybodaeth croeso ac ymgyfarwyddo i ymwelwyr a darpar breswylwyr, gan roi cyflwyniad rhyngweithiol i'r gwasanaeth iddynt cyn neu yn ystod ymweliad. Mae teithiau rhithwir a gwybodaeth am y gymuned leol yn helpu pobl i ddeall sut beth yw bywyd yn Oakhill a'r ardal gyfagos.
I breswylwyr, mae “Llyfrau Antur” wedi'u personoli yn dod â ffotograffau, fideos, atgofion, cyflawniadau ac adegau ystyrlon ynghyd mewn fformat rhyngweithiol. Gellir eu gweld gan ddefnyddio cod QR. Mae'r rhain yn ymddangos ochr yn ochr â chofnodion o weithgareddau dan arweiniad preswylwyr a thystiolaeth o osod nodau, sy'n dogfennu cynnydd a cherrig milltir personol. Mae ysgogiadau cof gweledol ac adnoddau hel atgofion yn helpu preswylwyr i gofio pobl, digwyddiadau a phrofiadau sy'n bwysig iddynt.
Un nodwedd allweddol o hyn yw cydgynhyrchu, sy'n golygu y caiff preswylwyr eu cynnwys yn weithredol wrth ddewis pa wybodaeth, ffotograffau ac atgofion i'w cynnwys yn eu Llyfrau Antur a'u cofnodion eu hunain. Mae hyn yn rhoi perchnogaeth uniongyrchol i'r preswylwyr dros y ffordd y caiff eu stori ei hadrodd a beth sy'n cael ei rannu ag eraill.

Effaith
Mae cyflwyno adnoddau â chodau QR wedi cael effaith gadarnhaol ar breswylwyr, teuluoedd, staff ac ymwelwyr. I breswylwyr sy'n byw gydag anafiadau caffaeledig i'r ymennydd, mae'n cefnogi eu cof a'u hymgysylltu gwybyddol, ymgyfarwyddo a hel atgofion, a hyder a hunan-barch. Drwy gynnwys preswylwyr wrth ddewis pa wybodaeth i'w chynnwys yn eu cofnodion eu hunain, mae'r ymarfer hefyd yn hyrwyddo annibyniaeth, dewis ac ymdeimlad cryfach o hunaniaeth, ynghyd â'r gallu i gymryd rhan mewn gweithgareddau a gosod nodau yn ystyrlon.
Mae teuluoedd wedi nodi eu bod yn teimlo mwy o gysylltiad â bywydau dyddiol a chyflawniadau eu hanwyliaid drwy'r diweddariadau gweledol a rhyngweithiol y mae'r codau QR yn eu darparu, yn enwedig pan nad ydynt yn gallu ymweld yn rheolaidd.
I'r staff, mae wedi newid sut maent yn dangos tystiolaeth o ganlyniadau ystyrlon a chymorth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae'n dod â chofnodion gofal yn fyw drwy brofiadau go iawn, ffotograffau, fideos a lleisiau'r preswylwyr eu hunain, yn hytrach na dibynnu'n llwyr ar ddogfennau ysgrifenedig.
Mae hefyd yn fuddiol i ymwelwyr a darpar breswylwyr, sy'n cael gwybodaeth fwy hygyrch a diddorol am y cartref, sy'n helpu i gynnig amgylchedd croesawgar, tryloyw a llawn gwybodaeth.
Dyfyniad
"Drwy groesawu'r defnydd creadigol o dechnoleg ddigidol hygyrch, rydym wedi cryfhau trefniadau cyfathrebu, cefnogi cof a llesiant, a meithrin cysylltiadau parhaol." Clare Whomes, Rheolwr Cofrestredig, Oakhill