Offeryn data ar gyfer gwasanaethau oedolion a phlant wedi'i ddiweddaru ar gyfer 2024/2025
Mae'r data diweddaraf gan wasanaethau oedolion a phlant ledled Cymru bellach ar gael drwy ein hofferyn data ar gyfer gwasanaethau oedolion a phlant.
Mae'r offeryn wedi cael ei ddiweddaru â gwybodaeth a gasglwyd drwy ein proses Datganiadau Blynyddol, lle rydym yn casglu data gan wasanaethau o bob cwr o Gymru bob blwyddyn.
Mae'r adnodd cynhwysfawr hwn yn cynnwys ystadegau a gwybodaeth allweddol sy'n helpu i greu darlun o'r dirwedd gofal ledled y wlad.
Mae'r offeryn data yn cwmpasu chwe phrif faes gwasanaeth: gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau cartref, gwasanaethau maethu rheoleiddiedig, gwasanaethau mabwysiadu rheoleiddiedig, gwasanaethau eirioli rheoleiddiedig a gwasanaethau lleoli oedolion.
Er mwyn diogelu gwybodaeth sensitif, ni chaiff data gan wasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd na gwasanaethau llety diogel eu cynnwys.
Mae'r adnodd hwn yn darparu trosolwg pwysig o berfformiad y gwasanaethau hanfodol hyn a gall helpu i lywio penderfyniadau ynghylch y ddarpariaeth gofal ledled Cymru.
Mae'r wybodaeth ddiweddaraf yn berthnasol i 2024/2025 ac yn cynnig gwybodaeth a fydd yn werthfawr i ddarparwyr gwasanaethau, gwneuthurwyr polisïau, ac unrhyw sydd â diddordeb mewn gwasanaethau gofal yng Nghymru.
Mae offeryn data 2024/2025 ar gyfer gwasanaethau oedolion a phlant bellach ar gael ar ein tudalen offer data.