Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
Dogfen HTML

Polisi ar ofynion cofrestru ar gyfer cartrefi gofal oedran cymysg

Polisi ar y gofynion ar gyfer gwasanaethau cartrefi gofal sy'n gofalu am blant ac oedolion yn yr un lleoliad.

Cyhoeddwyd: 19 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:
Argraffu

1. Diben

Mae'r polisi hwn yn nodi dull AGC o fonitro cartrefi gofal sy'n cefnogi plant (0–17 oed) ac oedolion ifanc (18+ oed) yn yr un lleoliad ar ôl i Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 (“Deddf 2025”) ddod i rym ar 1 Ebrill 2026. 

2. Cwmpas

2.1. Gwasanaeth plant o dan gyfyngiad

Mae Deddf 2025 yn diffinio “gwasanaeth plant o dan gyfyngiad” fel:

  • gwasanaeth cartref gofal‍ i’r graddau y mae’r gwasanaeth yn wasanaeth cartref plant (a ddarperir yn gyfan gwbl neu'n bennaf i blant), 
  • gwasanaeth maethu, neu 
  • gwasanaeth llety diogel,

ac yn cyflwyno cyfyngiadau i'r gwasanaethau hyn mewn ffordd raddol os cânt eu darparu gan endid cyfreithiol er-elw (a gofrestrwyd neu a wnaeth gais i gofrestru cyn 1 Ebrill 2026).

 O 1 Ebrill 2026:

  • Ni fydd unrhyw ddarparwyr er-elw newydd yn gallu cofrestru i ddarparu “gwasanaeth plant o dan gyfyngiad” yng Nghymru ac ni fydd darparwyr er-elw sy'n bodoli eisoes yn gallu amrywio eu cofrestriad i ychwanegu gwasanaeth plant o dan gyfyngiad.

O 1 Ebrill 2027:

  • Ni fydd darparwyr gwasanaeth plant o dan gyfyngiad er-elw sy'n bodoli eisoes yn gallu cynyddu uchafswm capasiti'r gwasanaeth/ni fydd gofalwyr maeth newydd yn cael eu cymeradwyo.

Erbyn 1 Ebrill 2030:

  • Ni fydd mwy o blant yn cael eu lleoli mewn gwasanaethau plant o dan gyfyngiad er-elw oni bai bod Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo'r lleoliad drwy'r broses gwneud cais am leoliad atodol newydd, gan gynnwys lleoliadau o awdurdodau lleol yn Lloegr, oni bai bod amgylchiadau eithriadol.

Mae'r newidiadau hyn yn creu gwahaniaeth pwysig iawn rhwng darparwyr sy'n darparu gwasanaeth cartref gofal mewn lleoliadau lle mae'r ddarpariaeth i oedolion a'r  rhai sy'n darparu'r gwasanaeth mewn lleoliadau lle mae'r ddarpariaeth i blant. 

O 1 Ebrill 2026, ni fydd yr is-math o wasanaeth “Cartref gofal i oedolion a phlant” yn bodoli mwyach yn AGC. Bydd yn rhaid i ddarparwyr ddatgan, ar gyfer pob lleoliad unigol lle maent yn darparu gwasanaeth cartref gofal, a ydynt:

  • yn gartref gofal i blant – gwasanaeth cartref plant (yn gyfan gwbl neu'n bennaf i blant (0-17) (endidau cyfreithiol nid-er-elw yn unig), neu
  • yn gartref gofal i oedolion – yn bwriadu darparu gwasanaethau i oedolion (18 oed neu'n hŷn) yn bennaf

Bydd darparwyr yn gallu dewis o amrywiaeth o anghenion gwasanaeth i allu disgrifio i bwy y maent yn darparu gwasanaeth. 

Enghraifft 1

Bydd gwasanaeth sy'n bwriadu darparu cartref gofal yn gyfan gwbl neu'n bennaf i blant, ond a fydd o bosibl yn darparu gofal i rai oedolion ifanc hefyd, yn cael ei gategoreiddio fel Cartref gofal i blant a bydd yn dewis yr amrywiaeth o anghenion y mae'n darparu ar eu cyfer gan gynnwys 'gofal i blant â rhai oedolion iau (hyd at 25 oed)'

Enghraifft 2 

Bydd gwasanaeth sy'n bwriadu darparu cartref gofal yn bennaf i oedolion, ond a fydd o bosibl yn darparu gofal i rai plant hefyd, yn cael ei gategoreiddio fel Cartref gofal i oedolion a bydd yn dewis yr amrywiaeth o anghenion y mae'n darparu ar eu cyfer gan gynnwys 'gofal i blant.'

Mae'r canllawiau hyn yn nodi sut y bydd AGC yn rheoli sefyllfaoedd lle bydd y cydbwysedd rhwng nifer y plant a'r oedolion sy'n byw mewn cartref gofal yn newid. 

3 Monitro a Gorfodi

3.1. Cartrefi gofal oedran cymysg sy'n bodoli eisoes a ddarperir gan ddarparwr ‘er-elw’ o 1 Ebrill 2026

Senario A

Os bydd darparwr er-elw, ar 1 Ebrill 2026, yn darparu ‘Cartref gofal i blant’ a bydd ei ddatganiad o ddiben yn nodi ei fod hefyd yn darparu gofal i rai oedolion ifanc hyd at 25 oed, fel gwasanaeth plant o dan gyfyngiad, bydd y darparwr yn destun y cyfyngiadau y mae'r Ddeddf yn eu cyflwyno o 1 Ebrill 2026 ymlaen, a bydd hyn yn cael ei ddangos ar gyfeiriadur AGC.

Os bydd y garfan o bobl yn y cartref gofal hwnnw yn newid yn ddiweddarach ac, felly, bydd y cartref gofal yn gofalu am fwy o oedolion ifanc na phlant dros gyfnod o 12 mis

  • Rhaid i'r darparwr roi gwybod i AGC am y cynllun i ddatrys yr amrywiad e.e. cynlluniau symud ymlaen i oedolion ifanc a allai gynnwys terfynu eu haddysg cyn symud er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth a ddarperir yn gyson â'r datganiad o ddiben. 
  • Os na fwriedir i'r newid fod yn un parhaol, ni fydd angen cymryd camau pellach. 
  • Os bwriedir i'r newid fod yn un parhaol:
    • Rhaid i'r darparwr newid y Datganiad o Ddiben i ddangos ei fod bellach yn bwriadu darparu'r gwasanaeth cartref gofal, yn y lleoliad hwnnw, yn bennaf i oedolion.
    • Gan nad yw'r darparwr yn darparu, nac yn bwriadu darparu, gwasanaeth cartref plant yn y lleoliad hwnnw mwyach, bydd AGC yn diweddaru'r gofrestr i ddangos nad yw'r darparwr yn destun cyfyngiadau Deddf 2025 mwyach
    • Mae'n bwysig nodi pe bai'r darparwr er-elw yn penderfynu'n ddiweddarach ei fod am ailddechrau darparu gwasanaeth cartref plant yn gyfan gwbl neu'n bennaf i blant yn y lleoliad hwnnw, ni fyddai'n gallu gwneud hynny oni bai ei fod yn sefydlu endid nid-er-elw ar wahân sy'n bodloni gofynion adran 6A, ac yn cofrestru'r endid newydd hwn ag AGC, cyn trosglwyddo'r gwasanaeth i'r endid newydd. 

Senario B

Os bydd darparwr er-elw, ar 1 Ebrill 2026, yn darparu o leiaf un Cartref gofal i oedolion (yn bennaf i oedolion) a bydd ei ddatganiad o ddiben yn nodi ei fod hefyd yn darparu gofal i rai plant, ni chaiff ei ystyried yn wasanaeth cartref plant. Os bydd y garfan o breswylwyr yn newid yn ddiweddarach ac, felly, bydd y darparwr yn gofalu am fwy o blant nag oedolion dros gyfnod o 12 mis, bydd y canlynol yn berthnasol.

Os bydd y newid yn un parhaol:

  • Byddem yn ystyried bod y darparwr yn gweithredu gwasanaeth plant o dan gyfyngiad ac yn torri'r gofyniad nid-er-elw. Byddai hyn yn golygu na fyddai'n gallu parhau i ddarparu'r gwasanaeth oni bai ei fod yn sefydlu endid nid-er-elw ar wahân sy'n bodloni gofynion adran 6A o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ac yn trosglwyddo'r cartref gofal ar gyfer gwasanaeth plant i'r endid newydd hwn.
  • Rhaid cyflwyno cais i gofrestru'r endid cyfreithiol ‘nid-er-elw’ newydd hwn.
  • Byddai angen i'w Ddatganiad o Ddiben ddangos ei fod yn bwriadu darparu gwasanaeth cartref plant (yn gyfan gwbl neu'n bennaf i blant). 
  • Unwaith y bydd wedi'i gofrestru, bydd ei gofrestriad yn destun amodau yn ei gwneud yn ofynnol iddo roi gwybod i AGC os na fydd yn bodloni gofynion adran 6A (gofynion nid er elw) mwyach, a byddai hyn yn cael ei nodi yng nghyfeiriadur gwasanaethau AGC.

Os na fydd y newid yn un parhaol: 

Os na fydd y darparwr yn bwriadu i'r trefniant hwn fod yn un parhaol a bod y sefyllfa bresennol yn amrywiad dros dro a'i fod yn awyddus i ofalu am oedolion yn bennaf o hyd, yna bydd yn gweithredu y tu allan i delerau ei ddatganiad o ddiben ac ni fydd yn bodloni gofynion adran 6A i fod yn endid nid-er-elw. Y rheswm dros hyn yw y byddai'r cartref gofal, gan ei fod yn gofalu am blant yn bennaf ar yr adeg honno, yn cael ei ystyried yn wasanaeth cartref plant (sy'n wasanaeth plant o dan gyfyngiad). Yn y sefyllfa hon, mae'r canlynol yn berthnasol. 

  • Bydd AGC yn canfod beth yw cynlluniau'r darparwr i unioni'r anghydbwysedd o ran nifer yr oedolion a'r plant, a bydd hyn yn cynnwys trafodaeth am amserlenni. Bydd AGC yn sicrhau bod yr amserlenni i ymdrin â'r mater yn rhesymol, yn deg ac yn gymesur, a disgwylir i hyn ddigwydd o fewn 6 mis fel arfer. 
  • Bydd AGC yn monitro'r sefyllfa hon. Mae'n bosibl y bydd AGC yn gosod amodau ar gofrestriad y darparwr mewn perthynas â'r lleoliad dan sylw i atal derbyniadau a fyddai'n rhwystro'r sefyllfa rhag cael ei hunioni. 
  • Os na fydd y darparwr yn cyflawni hyn o fewn yr amserlen y cytunwyd arni, bydd AGC yn rhoi gwybod i'r darparwr ei fod bellach yn gweithredu gwasanaeth plant o dan gyfyngiad ac felly'n torri'r gofynion nid-er-elw, ac y gallai fod yn destun camau gorfodi gan gynnwys amrywio ei gofrestriad i ddileu'r gwasanaeth yn y lleoliad hwnnw. 
  • Os bydd darparwr yn dweud ei fod yn bwriadu sefydlu endid nid-er-elw newydd sy'n bodloni gofynion adran 6A o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a throsglwyddo'r gwasanaeth cartref gofal i'r endid hwnnw, gall AGC ystyried hynny wrth benderfynu pa gamau gweithredu i'w cymryd. Byddai'n rhaid i'r darparwr gyflwyno cais i AGC i gofrestru'r endid nid-er-elw newydd.
  • Os na fydd y darparwr yn bwriadu trosglwyddo'r cartref gofal i endid nid-er-elw o gwbl neu o fewn cyfnod rhesymol o amser, bydd AGC yn ystyried yr amrywiaeth lawn o opsiynau gorfodi, ac yn mabwysiadu dull gweithredu priodol. Gallai hyn gynnwys gosod amodau ar gofrestriad y darparwr i'w atal rhag derbyn unrhyw leoliadau plant newydd, rhoi hysbysiad o gynnig yn rhoi gwybod iddo fod AGC yn bwriadu canslo neu amrywio ei gofrestriad i ddileu'r gwasanaeth hwnnw, neu erlyn y darparwr am weithredu gwasanaeth heb fod wedi'i gofrestru yn unol â Phennod 2 Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, gan dorri adran 5 o'r Ddeddf honno. 

3.2. Pob cofrestriad cartref gofal newydd a gaiff ei gofrestru o 1 Ebrill 2026

Bydd pob cofrestriad newydd ar gyfer gwasanaeth plant o dan gyfyngiad ar ôl 1 Ebrill 2026 yn un o'r 4 endid cyfreithiol a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru ac ni fydd cyfyngiadau arnynt. Os bydd darparwr yn dewis newid i ddarparu gofal i fwy o oedolion na phlant, a hynny a'r sail barhaol, dylai gyflwyno datganiad o ddiben i adlewyrchu'r newid.

Ni fydd yn ofynnol i bob cais i gofrestru cartref gofal i oedolion lle mae'r darparwr hefyd yn bwriadu darparu gofal i rai plant fod yn endid cyfreithiol nid-er-elw, ond rhaid i ddarparwyr fod yn ymwybodol y byddant yn destun yr un dull gorfodi â'r hyn a amlinellir yn Senario B yn adran 3.1 uchod os bydd y garfan o bobl sy'n byw yn y gwasanaeth yn newid yn barhaol fel eu bod wedyn yn darparu'r gwasanaeth yn gyfan gwbl neu'n bennaf i blant.