Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Prosesau gwella pwrpasol ac arddull arweinyddiaeth effeithiol sy’n cael effaith gadarnhaol ar agweddau o ddarpariaeth a’r lles

Mae’r gwaith hwn wedi cynyddu hyder ymarferwyr a gwella lles cyffredinol y plant.

Gwybodaeth am y lleoliad

Mae Beach House Day Nursery wedi’i leoli yn Y Rhyl, Gogledd Cymru, ac yn darparu gofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar i blant o’r adeg y cânt eu geni hyd nes byddant yn 12 oed. Nod y timau yn Beach House yw darparu gofal o ansawdd da ar gyfer pob un o’r plant mewn amgylchedd cartrefol, diogel ac ysgogol. Prif iaith y lleoliad yw Saesneg, ond mae staff yn ymgorffori’r defnydd o’r Gymraeg mewn arferion a gweithgareddau o ddydd i ddydd. 

Cyd-destun a chefndir yr arfer effeithiol neu arloesol

Ailagorodd Beach House o dan reolaeth newydd ym mis Tachwedd 2024. Mae’r lleoliad yn deall pwysigrwydd cael tîm arwain a rheoli cryf sy’n gweithio’n agos ac yn gyson gydag asiantaethau allanol (e.e. tîm Dechrau’n Deg, tîm Addysg Gynnar, ac ati) a’r gymuned leol.  

Mae arweinwyr yn canolbwyntio ar rymuso ymarferwyr i wneud penderfyniadau ac yn eu cynorthwyo trwy oruchwyliadau ac arfarniadau, i’w galluogi i hyrwyddo dysgu’r plant yn llwyddiannus. Crëwyd gweledigaeth a diben clir a chryno trwy adolygu a gwella polisïau a gweithdrefnau. Caiff y rhain eu deall yn glir a’u gweithredu’n gyson gan reolwyr ac ymarferwyr, gan arwain at arferion dyddiol strwythuredig ac effeithlon.  

Disgrifiad o natur y strategaeth neu’r gweithgarwch

Cynhaliodd y tîm rheoli gyfarfod ar ôl newid perchnogaeth y lleoliad, a chynnwys pob aelod o staff mewn trafodaethau am ddatblygu agweddau ar y ddarpariaeth. Rhoddodd arweinwyr flaenoriaeth i weithredu’r newidiadau, fel y trafodwyd a’i gytuno gyda staff. Er enghraifft, trefnwyd hyfforddiant i gefnogi cynllunio, a defnyddiodd arweinwyr grantiau lleol i wella’r amgylchedd dysgu a chyflwyno adnoddau fel creu wal ddŵr a gardd flodau. 

Pa effaith y mae’r gwaith hwn wedi’i chael ar y ddarpariaeth ac ar safonau plant?

Mae’r gwaith hwn wedi cynyddu hyder ymarferwyr a gwella lles cyffredinol y plant. Mae monitro cyson a chyfathrebu agored ymhlith arweinwyr ac ymarferwyr hefyd wedi cael eu cyflawni trwy weithio’n agos gyda’i gilydd.  

Mae’r plant yn defnyddio’r ardal awyr agored yn fwy effeithiol oherwydd y newidiadau a wnaed gan y tîm rheoli, fel cyflwyno ffrâm ddringo, ardal gardd a defnyddio’r sied y tu allan. 

Sut ydych chi wedi rhannu eich arfer dda?

Mae presenoldeb y lleoliad ar y cyfryngau cymdeithasol wedi cynyddu, ac mae’r gwelliannau hyn wedi cael eu rhannu trwy ap y lleoliad. Mae arweinwyr hefyd wedi gwahodd rhieni i’r lleoliad i weld y gwelliannau yn uniongyrchol.