Pili Pala Childminding
Cefnogi cynnydd drwy ymarfer a arweinir gan arsylwadau

Cefndir
Mae Pili Pala Childminding yn lleoliad gofal plant yn y cartref sy'n cael ei redeg gan Abigail Davies, sydd wedi'i chofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru ers mis Ionawr 2023.
Mae'n gofalu am nifer bach o blant, sy'n golygu y gall fabwysiadu dull personol iawn sy'n cefnogi cam datblygiad pob plentyn.
Beth mae'n ei wneud yn wahanol?
Mae Abigail yn defnyddio arsylwadau manwl sy'n gysylltiedig â llwybrau datblygiadol Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar Llywodraeth Cymru i olrhain datblygiad pob plentyn a nodi ei gamau nesaf.
Mae'n rhannu'r arsylwadau hyn a'r camau nesaf â'r rhieni yn rheolaidd, sy'n eu helpu i ddeall sut mae eu plentyn yn datblygu a sut y gallant gefnogi hyn gartref. Mae hyn yn cryfhau cysondeb rhwng y cartref a'r lleoliad.
Mae hefyd yn defnyddio'r arsylwadau hyn i gynllunio gweithgareddau pwrpasol, wedi'u teilwra sy'n ymateb i ddiddordebau a chamau datblygiad y plant.
Er enghraifft, pan nododd arsylwadau fod plentyn yn chwarae'n fagwrus â doliau, yn ymddwyn mewn ffordd sgematig yn barhaus (lle mae plant yn gwneud un peth sawl tro i archwilio sut mae pethau'n gweithio) ac yn defnyddio iaith a oedd yn dod i'r amlwg, cynlluniodd Abigail weithgareddau â phwyslais penodol i gefnogi hyn. Cyflwynodd adnoddau penagored ychwanegol, gan gynnwys cynwysyddion â chaeadau a gweithgareddau postio, i annog archwilio pellach.
Effaith
- Mae'r plant yn gwneud cynnydd datblygiadol cyson, ac mae asesiadau a arweinir gan arsylwadau yn helpu i nodi anghenion yn gynnar a darparu cymorth wedi'i dargedu.
- Mae sgiliau cyfathrebu'r plant yn datblygu â hyder cynyddol, wedi'u cefnogi gan weithgareddau sy'n cyd-fynd â'u cam datblygu.
- Mae'r plant yn chwarae am gyfnodau hirach ac yn bwrpasol, gyda'r plant yn dangos sgiliau canolbwyntio, dychymyg a sgiliau motor manwl gwell drwy weithgareddau wedi'u teilwra.
- Mae gan y rhieni ddealltwriaeth gliriach o ddatblygiad eu plentyn a sut i gefnogi dysgu gartref.
Dyfyniad
“Mae gwylio plant yn magu hyder ac yn gwella eu sgiliau cyfathrebu ac annibyniaeth yn dangos i mi pa mor effeithiol y gall ymarfer ymatebol, dan arweiniad y plentyn fod.”
Dogfennau
-
Gwasanaeth gofal plant Pili Pala Childminding , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 513 KBPDF, Maint y ffeil:513 KB