Rhannwch eich barn am Wasanaeth Mabwysiadu Bae'r Gorllewin
Rydym yn arolygu gwasanaethau mabwysiadu yn Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot ym mis Medi. Os ydych wedi defnyddio neu wedi cefnogi'r gwasanaethau hyn, hoffem glywed gennych.
Yn ystod wythnos gyntaf mis Medi 2025, byddwn yn arolygu Cydweithredfa Fabwysiadu Ranbarthol Bae'r Gorllewin. Mae'r gwasanaeth hwn yn darparu cymorth ar gyfer mabwysiadu yn Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot.
Pam rydym yn gofyn am eich barn
Rydym am ddeall pa mor dda y mae gwasanaethau mabwysiadu yn gweithio i bawb sy'n ymwneud â nhw. Bydd eich profiadau yn ein helpu i edrych ar ansawdd y gofal a'r cymorth sy'n cael eu darparu. Mae hyn yn cynnwys beth sy'n gweithio'n dda a lle y gallai pethau fod yn well.
Bydd eich adborth yn llywio ein harolygiad yn uniongyrchol.
Pwy rydym am glywed ganddynt
Rydym yn croesawu adborth gan deuluoedd biolegol, rhieni sydd wedi mabwysiadu a phobl sydd wrthi'n cael eu hasesu fel rhieni i fabwysiadu. Rydym hefyd yn awyddus i glywed gan ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol sy'n cefnogi gwasanaethau mabwysiadu yn yr ardaloedd hyn.
Sut i gymryd rhan
Cwblhewch ein harolwg erbyn 22 Awst 2025:
- Cwblhewch yr arolwg teuluoedd biolegol
- Cwblhewch arolwg ‘pawb arall’
- Neu ffoniwch ni ar 0300 7900 126 os byddai'n well gennych roi eich adborth dros y ffôn.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Byddwn ni'n defnyddio'r hyn a ddywedwch wrthym i lywio ein harolygiad o wasanaethau mabwysiadu ym Mae'r Gorllewin. Ar ôl yr arolygiad, byddwn yn cyhoeddi ein canfyddiadau ac unrhyw argymhellion ar gyfer gwella.
Diolch am roi o'ch amser i rannu eich barn. Bydd eich adborth yn ein helpu i ddeall pa mor dda y mae gwasanaethau mabwysiadu yn gweithio a gwneud yn siŵr bod lleisiau pobl yn cael eu clywed.