Rhannwch eich barn am Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Yn fuan, byddwn yn arolygu gwasanaethau mabwysiadu yn Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd, Sir y Fflint a Wrecsam. Os ydych wedi defnyddio neu wedi cefnogi'r gwasanaethau hyn, hoffem glywed gennych.
Pam rydym yn gofyn am eich barn
Rhwng 13 a 17 Hydref 2025, byddwn yn arolygu Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru, y gwasanaeth mabwysiadu lleol i bobl sy'n byw yn Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn.
Os ydych wedi defnyddio neu wedi cefnogi'r gwasanaethau hyn, hoffem glywed am eich profiadau. Bydd eich adborth yn ein helpu i ddeall sut mae gwasanaethau mabwysiadu yn gweithio i bawb. Mae hyn yn cynnwys beth sy'n gweithio'n dda a lle y gallai pethau fod yn well.
Bydd eich adborth yn llywio ein harolygiad yn uniongyrchol.
Pwy rydym am glywed ganddynt
Rydym yn croesawu adborth gan deuluoedd biolegol, rhieni sydd wedi mabwysiadu a phobl sydd wrthi'n cael eu hasesu fel rhieni i fabwysiadu. Rydym hefyd yn awyddus i glywed gan ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol sy'n cefnogi gwasanaethau mabwysiadu yn yr ardaloedd hyn.
Sut i gymryd rhan
Cwblhewch ein harolwg erbyn 6 Hydref 2025:
Neu ffoniwch ni ar 0300 7900 126 os byddai'n well gennych roi eich adborth dros y ffôn.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Byddwn ni'n defnyddio'r hyn a ddywedwch wrthym i lywio ein harolygiad o wasanaethau mabwysiadu yng ngogledd Cymru. Ar ôl yr arolygiad, byddwn yn cyhoeddi ein canfyddiadau ac unrhyw argymhellion ar gyfer gwella.
Diolch am roi o'ch amser i rannu eich barn.