Rhannwch eich barn am wasanaethau mabwysiadu yn Ne-ddwyrain Cymru
Os ydych wedi derbyn gwasanaethau mabwysiadu yng Nghaerffili, Sir Fynwy, Torfaen, Blaenau Gwent neu Gasnewydd, hoffem glywed gennych.
Rhwng 30 Mehefin a 4 Gorffennaf 2025, byddwn yn arolygu gwasanaethau Cydweithredfa Mabwysiadu Ranbarthol De-ddwyrain Cymru, sy'n darparu gwasanaethau mabwysiadu yng Nghaerffili, Sir Fynwy, Torfaen, Blaenau Gwent neu Gasnewydd.
Rydym am ddeall pa mor dda y mae gwasanaethau mabwysiadu yn gweithio i bawb sy'n ymwneud â nhw. Bydd eich profiadau a'ch adborth yn ein helpu i werthuso ansawdd gwasanaethau a nodi lle y gellid gwneud gwelliannau.
Pwy rydym am glywed ganddynt
Rydym yn croesawu adborth gan blant a phobl ifanc sydd wedi cael eu mabwysiadu, rhieni sydd wedi mabwysiadu, pobl sydd wrthi'n cael eu hasesu fel rhieni i fabwysiadu a theuluoedd genedigol. Rydym hefyd yn awyddus i glywed gan ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol sy'n cefnogi gwasanaethau mabwysiadu yn yr ardaloedd hyn.
Byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau un o'r arolygon isod a rhoi eich adborth i ni erbyn 24 Mehefin 2025.
- Arolwg teuluoedd biolegol
- Arolwg ‘eraill’ (Rhieni mabwysiadol, pobl sydd yn y broses o gael eu hasesu fel rhieni mabwysiadol ac ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n cefnogi gwasanaethau mabwysiadu)
Gallwch hefyd ffonio 0300 7900 126 i gael help i'w gwblhau dros y ffôn.
Yn dilyn ein harolygiad, byddwn yn cyhoeddi adroddiad am wasanaethau mabwysiadu yn Ne-ddwyrain Cymru. Bydd hyn yn rhan o adolygiad ehangach o wasanaethau mabwysiadu ledled Cymru. Bydd eich adborth yn helpu i lywio ein canfyddiadau a'n hargymhellion ar gyfer gwelliannau.