Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 1 Rhagfyr 2025
  • Newyddion

Rydym yn croesawu eich barn am wasanaethau gofal cymdeithasol i blant a maethu a ddarperir gan Gyngor Sir Ynys Môn

Yn ystod mis Ionawr 2026, byddwn yn cynnal archwiliad sicrwydd o wasanaethau gofal cymdeithasol plant a maethu yng Nghyngor Sir Ynys Môn.

Diben yr archwiliad sicrwydd hwn yw adolygu perfformiad yr awdurdod lleol wrth gyflawni ei ddyletswyddau a'i swyddogaethau mewn perthynas â Gwasanaethau Cymdeithasol yn unol â deddfwriaeth, ar ran Gweinidogion Cymru. 

Os ydych chi neu eich teulu yn cael cefnogaeth gan dimau gwasanaethau plant neu gwasanaethau maethu Cyngor Sir Ynys Môn, hoffem glywed am eich profiadau.

Byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau un o'r arolygon isod a rhoi eich adborth i ni erbyn 7 Ionawr 2026.

Caiff ein llythyr canfyddiadau ei gyhoeddi ar ein gwefan.