Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 3 Tachwedd 2025
  • Newyddion

Rydym yn croesawu eich barn am wasanaethau plant yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot

Yn ystod mis Rhagfyr 2025, byddwn yn cynnal archwiliad sicrwydd o wasanaethau plant yng Nghyngor Castell-nedd Port Talbot.

Diben yr archwiliad sicrwydd hwn yw adolygu perfformiad yr awdurdod lleol wrth gyflawni ei ddyletswyddau a'i swyddogaethau mewn perthynas â Gwasanaethau Cymdeithasol yn unol â deddfwriaeth, ar ran Gweinidogion Cymru. 

Os ydych yn cael gwasanaethau gan dîm gwasanaethau plant Castell-nedd Port Talbot, hoffem glywed am eich profiadau.

Byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau un o'r arolygon isod a rhoi eich adborth i ni erbyn 26 Tachwedd.

Caiff ein llythyr canfyddiadau ei gyhoeddi ar ein gwefan.