Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Sarah Sharpe

Croesawu amrywiaeth: Taith gwarchodwrplant tuag at greu amgylchedd gwrth-hiliol.

Children's dolls

Cefndir

Mewn tref fach yng Nghymru, mae gwarchodwrplant cofrestredig wedi trawsnewid ei lleoliad i greu esiampl ardderchog o amgylchedd cynhwysol a gwrth-hiliol, gan ddangos pŵer dysgu parhaus a meddwl agored wrth ddarparu addysg blynyddoedd cynnar. 

Beth mae'n ei wneud yn wahanol?

Ar ôl cwblhau hyfforddiant DARPL (Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth), cymerodd y gwarchodwrplant hwn gamau rhagweithiol er mwyn creu amgylchedd mwy cynhwysol. Aeth ati i wneud y canlynol:  

  • ailasesu ac amrywio ei hadnoddau, gan gynnwys llyfrau a theganau
  • cyflwyno pensiliau lliw croen a doliau rhyngwladol dilys  
  • creu arddangosfeydd sy'n dathlu amrywiaeth  
  • cyflwyno Tirion, tedi rhywedd-niwtral â mewnblaniad yn y cochlea  
  • gosod drychau o gwmpas y lleoliad i ddatblygu ymdeimlad o hunaniaeth ymhlith y plant
  • cynnal trafodaethau agored am wahaniaethau a chynwysoldeb  
  • rhoi hyfforddiant ar waith i gefnogi datblygiad cymdeithasol ac emosiynol  

Mae'r astudiaeth achos hon yn pwysleisio pŵer datblygiad proffesiynol a'r effaith gadarnhaol y gall hyn ei chael ar leoliadau'r blynyddoedd cynnar. Drwy groesawu arferion gwrth-hiliol a hyrwyddo amrywiaeth, mae'r gwarchodwrplant hwn wedi creu amgylchedd lle gall y plant ffynnu, dysgu, a datblygu sgiliau hanfodol i greu cymdeithas fwy cynhwysol. 

Effaith...

  • Mae'r plant bellach yn teimlo'n gyfforddus wrth ofyn cwestiynau am wahaniaethau
  • Maent yn bwrw ati i ddathlu amrywiaeth ymysg ei gilydd
  • Mae'r lleoliad yn hyrwyddo empathi, tosturi, a datblygiad cymdeithasol ac emosiynol
  • Mae'r plant yn datblygu sgiliau i addysgu eraill am gynwysoldeb
  • Mae'r gwarchodwrplant wedi meithrin hyder wrth ymdrin â sgyrsiau anodd
  • Mae'r amgylchedd bellach yn hyrwyddo gwrth-hiliaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol 

Quote

"The course opened my eyes to things I hadn't even considered before. Now, I've truly embedded antiracist practices into my setting, and I'm proud to see the children confidently celebrating their differences and developing empathy for others."