Sophie Hallett
Defnyddio natur i feithrin hyder ac ymreolaeth plant.

Cefndir
Mae Sophie Hallett yn warchodwr plant yng Ngheredigion. Mae'n meddu ar gymwysterau uwch ym maes datblygiad plant, y mae'n eu defnyddio i greu amgylchedd dysgu cyflawn a chefnogol. Dros y tair blynedd diwethaf, mae wedi canolbwyntio ar ei thwf proffesiynol ei hun ac mae'n cyfuno dulliau gwahanol i greu lleoliad hamddenol sy'n canolbwyntio ar y plant lle gallant ffynnu.
Beth mae'n ei wneud yn wahanol?
Mae Sophie yn defnyddio syniadau creadigol sy'n annog annibyniaeth a dulliau dysgu naturiol. Mae'n cynllunio profiadau ystyrlon drwy amgylcheddau ac adnoddau meddylgar, fel y canlynol:
- gosod adar wedi'u gwau mewn basged, a wnaeth ysbrydoli'r plant i'w henwi, gofalu amdanynt, eu pwyso a'u mesur, yn ogystal â darllen straeon a chwarae gemau ar y thema adar
- trefnu ymweliadau â fferm fêl yn seiliedig ar chwilfrydedd a diddordebau'r plant
- annog dulliau dysgu synhwyraidd ymarferol drwy weithgareddau cynaliadwy
- creu man hamddenol lle caiff llesiant a thwf emosiynol eu gwerthfawrogi ochr yn ochr â'r dysgu
Mae'r dulliau hyn yn rhoi dewis i'r plant o ran y ffordd y maent yn dysgu, gan hefyd gynnal eu diddordeb a chefnogi eu datblygiad parhaus.
Efaith ...
- Mae'r plant yn magu hyder drwy gyfarwyddo eu dysgu eu hunain
- Maent yn archwilio achos ac effaith drwy arbrofion ymarferol
- Mae eu dulliau chwarae yn datblygu o ddulliau archwilio syml i weithgareddau pwrpasol
- Maent yn cryfhau eu sgiliau datrys problemau a meddwl yn feirniadol
- Maent yn canolbwyntio am gyfnodau hirach ac yn cymryd mwy o ddiddordeb yn eu dysgu
Dyfyniad
“Mae newid fy ffordd o weithio wedi bod o fudd i'r plant ond hefyd i fi a fy nheulu. Mae amgylchedd hamddenol a niwtral ein cartref teuluol yn cynnig lle hapus a magwrus lle y gall plant ddysgu drwy chwarae”
Dogfennau
-
Sophie Hallett ymarfer gwerth ei rannu , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MBPDF, Maint y ffeil:2 MB