Spring Meadows (Manorleigh)
Nodau personol sy’n cael effaith fawr.

Cefndir
Cartref preswyl bach yn Abertawe yw Spring Meadows (Manorleigh) sy'n cael ei redeg gan deulu ac yn darparu gofal i hyd at wyth oedolyn hŷn ag anableddau dysgu. Mae gan y cartref dîm sefydlog o staff sy'n adnabod y preswylwyr yn dda ac yn eu helpu i ddatblygu sgiliau ymarferol ac annibyniaeth drwy weithgareddau dyddiol pwrpasol.
Beth mae'n ei wneud yn wahanol?
Mae Spring Meadows yn rhedeg dau gynllun cysylltiedig sy'n troi cyfleoedd dysgu beunyddiol yn falchder, pwrpas ac annibyniaeth.
- Fy nodau personol: Mae pob preswylydd yn dewis un nod personol ar gyfer y flwyddyn (e.e. gwneud paned o de, dysgu am arian, dewis dillad sy'n briodol ar gyfer y tywydd). Mae'r staff yn adolygu cynnydd gyda'r preswylwyr bob tri mis, ochr yn ochr â'r teulu. Mae pawb yn cael tystysgrifau am ymdrech a chynnydd, gan arwain at noson wobrwyo i ddathlu eu cyflawniadau bob mis Rhagfyr.
- Blwch post cyflawniadau: Mae'r preswylwyr, y staff a pherthnasau yn ysgrifennu ‘cardiau post cyflawniad’ pa bryd bynnag y bydd unigolyn yn dangos caredigrwydd, yn rhoi cynnig ar rywbeth newydd neu'n gwneud cynnydd. Mae postio'r cerdyn yn eu cymell ac yn cael effaith ar unwaith. Ar ddiwedd y flwyddyn, caiff y blwch post ei agor a chaiff y cyflawniadau eu darllen yn uchel yn y noson wobrwyo.
Gyda'i gilydd, mae'r cynlluniau syml hyn yn rhoi anogaeth reolaidd, nodau clir a chydnabyddiaeth ystyrlon i'r preswylwyr – gan eu helpu i fagu hyder a meithrin sgiliau.
Effaith
- Mae'r cynlluniau wedi gwella hyder a chymhelliant yn y cartref, gyda'r preswylwyr yn cael anogaeth a chydnabyddiaeth reolaidd gan y staff, aelodau o'u teulu a'u cyfoedion
- Mae'r preswylwyr yn fwy parod i roi cynnig ar bethau newydd, i feithrin sgiliau ac i weithio tuag at fod yn fwy annibynnol
- Dywed y staff a pherthnasau eu bod yn gweld mwy o falchder, awydd i ymgysylltu a phwrpas ym mywydau beunyddiol y preswylwyr.
Ochr yn ochr â'r effeithiau cyfunol hyn, mae'r preswylwyr wedi cyflawni cerrig milltir personol:
- Roedd un preswylydd wedi datblygu o fethu ag adnabod darnau arian i dalu'n annibynnol mewn clybiau cymunedol a siopau
- Mae preswylydd arall a ddewisodd “rhoi cynnig ar bethau newydd” bellach yn mynd i glybiau cymunedol ac wedi gwneud ffrindiau newydd
- Roedd un preswylydd wedi dysgu sut i ddewis dillad sy'n briodol ar gyfer y tywydd, gan ei helpu i aros yn gyfforddus ac yn iach
Dyfyniad
Dyw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu sgiliau newydd ac i ddod yn fwy annibynnol. Mae pob cyflawniad yn werth ei ddathlu, boed yn fach neu'n fawr!
Dogfennau
-
Spring Meadows (Manorleigh) ymarfer gwerth ei rhannu , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 8 MBPDF, Maint y ffeil:8 MB