Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

St Cadocs Flying Start

Meithrin ymdeimlad o berthyn drwy gynhwysiant

Child making Easter crafts

Cefndir

Ym meithrinfa gofal dydd St Cadoc, caiff amrywiaeth nid yn unig ei gydnabod, ond ei ddathlu hefyd. Mae plant a theuluoedd yn dod o amrywiaeth o gefndiroedd gan gynnwys Persiaidd, Arabaidd, Du Affricanaidd, Eidalaidd, Portiwgalaidd, Gwyddelig, Pwylaidd a mwy. Mae'r tîm yn ymrwymedig i greu man lle mae pob plentyn yn teimlo ei fod yn cael ei weld, ei werthfawrogi, a'i fod yn gysylltiedig.

Beth mae'n ei wneud yn wahanol?

Mae St Cadoc yn ymgysylltu â rhieni'r plant wrth gynllunio gan ofyn sut mae'r teuluoedd yn dathlu eu gwyliau. Mae hyn yn eu helpu i wneud y canlynol:

  • ymgorffori gwyliau amlddiwylliannol i'r cwricwlwm, o Eid a Diwrnod San Padrig i'r Flwyddyn Newydd Bersiaidd a Dydd Gŵyl Dewi
  • addasu gweithgareddau fel y gall pob plentyn gymryd rhan, fel creu gwaith celf tân ar gyfer y Flwyddyn Newydd Bersiaidd
  • defnyddio crefft, gwisgo i fyny, cerddoriaeth a bwyd i ddod â dathliadau'n fyw
  • nodi achlysuron arbennig fel Sul y Mamau a'r Pasg gyda gweithgareddau crefft, coginio a synhwyraidd yn seiliedig themâu

Cafodd y cynhwysiant hwn ei sbarduno gan hyfforddiant “Dyma Fi 2s” sydd wedi rhoi hyder i'r staff gael sgyrsiau agored am ddiwylliant gyda theuluoedd y plant a'r ffordd orau o ymgorffori hyn i'w cynlluniau bob dydd.

Effaith ...

  • Mae'r plant yn cael ymdeimlad cryfach o berthyn a hunaniaeth
  • Mae'r dathliadau yn hybu ymwybyddiaeth ddiwylliannol
  • Mae ffotograffau a gwaith celf sy'n cael eu harddangos yn y lleoliad yn dathlu cyfraniadau pob plentyn
  • Mae'r rhieni a'r teuluoedd yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cynnwys

Dyfyniad

"Rydym wedi gweld y plant yn datblygu ymdeimlad o berthyn a balchder yn eu gwaith, maent wrth eu bodd yn dangos yr hyn y maent wedi ei wneud i'w rhieni"