St Padarn's Playgroup
Dathlu amrywiaeth a threftadaeth pob plentyn.

Cefndir
Mae Cylch Chwarae Padarn Sant yn wasanaeth gofal dydd llawn yng Ngheredigion, sy'n cynnig hyd at 19 o leoliadau i blant rhwng 2 a 4 oed.
Mae'r tîm yn angerddol dros ofal plant ac yn falch o greu amgylchedd croesawgar lle y caiff amrywiaeth ei dathlu a lle mae pob plentyn yn teimlo ei fod yn perthyn.
Beth mae'n ei wneud yn wahanol?
Mae dathlu amrywiaeth a threftadaeth unigol yn rhan ganolog o ymarfer Padarn Sant. Mae'n cymryd camau ymarferol i sicrhau bod pob teulu yn teimlo ei fod yn cael ei groesawu, ei dderbyn a'u barchu, gan gynnwys:
- defnyddio cyfarchion o ieithoedd cartref y plant, fel "o dabo" (hwyl fawr yn Yoruba), ynghyd ag ymadroddion Cymraeg fel "bore da"
- gwahodd rhieni i rannu eu hiaith, eu profiadau a'u diwylliant â'r staff a'r plant, gan helpu'r plant i deimlo'n falch a'u bod yn cael eu derbyn
- dathlu treftadaeth Cymru a threftadaeth unigol pob teulu yn gyfartal, gan hyrwyddo parch a dealltwriaeth tuag at ei gilydd
- creu bwrdd arddangos sy'n dangos pob plentyn gyda chyfarchiad yn iaith ei gartref, gan sicrhau bod amrywiaeth yn amlwg a'i bod yn cael ei gwerthfawrogi bob dydd
Mae Padarn Sant yn dathlu iaith a threftadaeth pob plentyn, gan greu amgylchedd cynhwysol lle mae'r plant yn teimlo'n falch ac mae'r teuluoedd yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.
Effaith ...
- Mae'r plant yn setlo'n gyflym, gan ddangos llwyddiant y dull cynhwysol hwn
- Mae'r rhieni yn teimlo'n falch pan gaiff eu treftadaeth ei chydnabod
- Mae'r plant yn teimlo'n hyderus a'u bod yn cael eu derbyn, ac mae'r teuluoedd yn mwynhau rhannu eu diwylliant
- Mae dathlu cefndir pob plentyn yn helpu teuluoedd i deimlo eu bod yn cael croeso ac yn creu ymdeimlad gwirioneddol o berthyn
Dyfyniad
“Mae dathlu treftadaeth, iaith a chefndir pob plentyn yn hanfodol i groesawu teuluoedd ac i'r plant gael ymdeimlad gwirioneddol o berthyn.”
Sarah Jenkins, Rheolwr Cylch Chwarae Padarn Sant
Dogfennau
-
St Padarn's Playgroup ymarfer gwerth ei rannu , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 415 KBPDF, Maint y ffeil:415 KB