Sut mae Cadoc House yn troi partneriaethau cymunedol yn arferion bob dydd
Mae Cadoc House wedi datblygu dull parhaus a strwythuredig o weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau allanol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gwbl hygyrch
Cefndir
Cadoc House oedd gwasanaeth gofal preswyl cyntaf React Support Services yng Nghaerdydd. Mae'n darparu cymorth mewn llety i 18 o oedolion, gyda ffocws ar hyrwyddo annibyniaeth, llesiant a chynhwysiant cymunedol. Mae gan y gwasanaeth gaban pwrpasol ar y safle a ddefnyddir ar gyfer gweithgareddau, hyfforddiant ac ymweliadau gan asiantaethau allanol. Caiff Cadoc ei arwain gan Unigolyn Cyfrifol: Haydn Osborne a Rheolwr Cofrestredig Ceri Ann Welch. Mae'r gwasanaeth yn cefnogi unigolion ag amrywiaeth o anghenion a lefelau amrywiol o hyder, ac wedi datblygu dull strwythuredig o feithrin cysylltiadau cymunedol sy'n gwella canlyniadau ar gyfer y bobl y mae'n eu cefnogi.
The Practice
Mae Cadoc House wedi datblygu dull parhaus a strwythuredig o weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau allanol, gan ymgorffori ymgysylltiad cymunedol yn y gwasanaeth a ddarperir bob dydd yn hytrach na'i drin fel rhywbeth ychwanegol ac achlysurol. Mae'r dull hwn yn gweithredu ar draws nifer o agweddau rhyng-gysylltiedig, ac mae pob un ohonynt wedi'u dylunio i gynnig cyfleoedd ystyrlon i fywydau'r bobl y mae Cadoc yn eu cefnogi.
Mae ‘Feel Good Fiesta’ blynyddol React wrth wraidd hynny, sef digwyddiad wythnos o hyd ar y safle sy'n dod â gweithdai, sesiynau creadigol, gweithgareddau gwirfoddoli ac ymweliadau gan sefydliadau allanol ynghyd. Mae'r digwyddiad yn cynnig cyfle strwythuredig ond hygyrch i'r unigolion roi cynnig ar weithgareddau newydd, archwilio diddordebau ac ymgysylltu â'u cymuned ehangach mewn amgylchedd a gefnogir. Mae'r caban pwrpasol yn Cadoc yn ganolog o ran sicrhau bod y math hwn o ymgysylltiad yn bosibl, gan gynnig lle dynodedig a chroesawgar i ymwelwyr allanol a gweithgareddau grŵp drwy gydol y flwyddyn.
Y tu hwnt i'r digwyddiad blynyddol, mae Cadoc wedi sefydlu cydberthnasau parhaus â nifer o sefydliadau cymunedol. Mae Community Connectors, grŵp gwirfoddol, yn ymweld yn rheolaidd i weithio gydag unigolion ar sgiliau sy'n gysylltiedig â chyflogaeth a chyfraniad cymunedol. Mae'r unigolion hefyd yn ymgysylltu ag elusennau lleol sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddoli a chodi arian sy'n eu cysylltu â'u cymunedau mewn modd pwrpasol.
Mae Cydlynydd Ymgyrch Ailgylchu Cyngor Caerdydd wedi ymweld â'r gwasanaeth i ddarparu sesiynau ar gyfrifoldeb amgylcheddol, ac mae swyddogion yr heddlu a swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn ymweld i feithrin cydberthnasau cadarnhaol ac anffurfiol ag unigolion, gan helpu i leihau gorbryder a gwella dealltwriaeth o wasanaethau cymunedol.
Er mwyn cefnogi cyfnodau pontio didrafferth i'r gwasanaeth, mae Timau Gofal Cymunedol yn cynnal Sesiynau Rhannu Gwybodaeth â'r staff cyn i unigolyn newydd gael ei dderbyn. Mae'r sesiynau hyn yn sicrhau bod y staff yn deall anghenion, dewisiadau a strategaethau cymorth unigolyn cyn iddo gyrraedd, gan sicrhau gofal mwy cyson sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn o'r diwrnod cyntaf.
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru hefyd wedi darparu gweithdy i'r staff, gan gwmpasu gofynion cofrestru a disgwyliadau proffesiynol. Mae hyn yn adlewyrchu ymrwymiad y gwasanaeth i ddatblygu ei weithlu ynghyd â'i raglen gymunedol ehangach, gan gydnabod bod y ddau yn hanfodol i ddarparu cymorth o ansawdd uchel.
Roedd angen ymdrechion parhaus i feithrin y partneriaethau hyn. Mae'r gwasanaeth wedi buddsoddi amser i feithrin cydberthnasau â phob sefydliad, cyfathrebu'n rheolaidd a chydlynu ymweliadau i sicrhau eu bod yn parhau'n berthnasol ac yn fuddiol. Roedd angen cymorth hyblyg ac addasadwy hefyd i ymgysylltu ag unigolion â gwahanol anghenion a lefelau hyder er mwyn sicrhau bod y cyfleoedd wir yn hygyrch i bawb.

Effaith
Mae'r dull strwythuredig o weithio mewn partneriaeth wedi arwain at amrywiaeth o welliannau amlwg i'r bobl y mae Cadoc yn eu cefnogi. Mae'r unigolion wedi meithrin rhwydweithiau cymdeithasol cryfach ac ymdeimlad gwell o berthyn i'w cymunedau, yn benodol drwy gymryd rhan yn y Feel Good Fiesta ac ymgysylltu'n barhaus ag elusennau lleol. Mae'r staff a'r arweinwyr yn y gwasanaeth yn nodi bod gan yr unigolion sydd wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau yn y gymuned lesiant emosiynol gwell, mwy o hyder a mwy o hunan-barch.

Dyfyniad
“Mae cydweithio ag asiantaethau allanol wedi ein galluogi i gyflawni rhagoriaeth ym mhob maes o'n gwasanaeth a chyflawni'r canlyniadau gorau posibl i'r Unigolion rydym yn eu cefnogi."