Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Tŷ Cwm Gwendraeth

Dod â blas a boddhad yn ôl i breswylwyr.

Staff using feeding apparatus for resident

Cefndir

Mae cartref nyrsio Tŷ Cwm Gwendraeth yn Sir Gaerfyrddin yn cefnogi pobl ag anghenion corfforol a seicolegol cymhleth. Mae gan lawer o'r preswylwyr anawsterau llyncu difrifol, ac ni ddylid rhoi dim i rai ohonynt ei fwyta na'i yfed drwy'r geg oherwydd am fod risg uchel y byddant yn tagu. Mae colli'r gallu i flasu bwyd a diod yn aml yn peri gofid ac ymdeimlad gwirioneddol o golled.

Beth mae'n ei wneud yn wahanol?

Cyflwynodd therapyddion lleferydd ac iaith y cartref ddyfais paratoi bwyd arbenigol - adnodd bach, fforddiadwy sy'n troi bwyd a diod yn swigod diogel sy'n toddi yn y geg.

Mae hyn yn golygu y gall y preswylwyr na allant lyncu fwynhau'r blasau y maent yn eu colli unwaith eto, gan gynnwys siocled a'u hoff ddiodydd alcoholig, heb unrhyw risg. 

Mae'r gallu i flasu eto yn codi'r calon, yn lleihau rhwystredigaeth, ac yn helpu'r bobl i deimlo mwy o gysylltiad â bywyd bob dydd. Mae blasau yn aml yn sbarduno atgofion a straeon personol, fel diodydd gwyliau neu fwydydd sy'n gysylltiedig â thraddodiadau teuluol, ac mae hyn yn creu cyfleoedd i'r preswylwyr hel atgofion a chyfathrebu.

Mae'r dull hwn bellach wedi cael ei gyflwyno mewn nifer o gartrefi, sy'n rhoi'r cyfle i fwy o bobl fwynhau'r manteision hyn.

Effaith ...

  • Mae gan y staff adnodd ymarferol newydd i gefnogi pobl ag anawsterau llyncu difrifol
  • Gall y preswylwyr flasu eu hoff fwydydd a diodydd yn ddiogel unwaith eto, gan adfer boddhad blasu
  • Mae amseroedd bwyd yn dod yn gyfleoedd i gymdeithasu, sy'n helpu'r bobl i ymuno ag eraill
  • Mae blasu yn gwella hwyliau ac yn helpu'r bobl i deimlo'n fwy cysylltiedig.
  • Mae blasau cyfarwydd yn sbarduno atgofion ac yn annog y preswylwyr i rannu straeon

Dyfyniad

“Mae helpu pobl i fwynhau blasau cyfarwydd unwaith eto wedi bod yn drawsnewidiol. Mae'n dod â boddhad, yn sbarduno atgofion, ac yn creu cyfleoedd i gymdeithasu'n ystyrlon - y pethau sy'n hanfodol ar gyfer ansawdd bywyd”