Victoria Richard caiff ei adnabod fel 'Little Chickens'
Tyfu gerddi a chreu cysylltiadau â bywyd gwyllt.

Cefndir
Mae Victoria yn warchodwr plant yn ei chartref yn Rhosllanerchrugog. Ers cael achrediad Hygge Blynyddoedd Cynnar yn 2022, mae wedi datblygu gardd organig. Mae wedi'i chynllunio i gefnogi bioamrywiaeth a gweithredu fel ystafell ddosbarth fyw, ac yn galluogi'r plant i ymgysylltu â natur, archwilio newidiadau tymhorol, cylchredau oes, a dysgu am ofal bywyd gwyllt.
Beth mae'n ei wneud yn wahanol?
Mae Victoria wedi creu amgylchedd byw lle mae'r plant yn tyfu ac yn gofalu am blanhigion wrth ddatblygu cysylltiadau ystyrlon â bywyd gwyllt. Mae'r dull yn canolbwyntio ar ddysgu ymarferol drwy'r canlynol:
- tyfu blodau, perlysiau, ffrwythau a llysiau sy'n cynnig darnau rhydd naturiol fel petalau rhosod a pherlysiau ar gyfer y plant i'w defnyddio mewn chwarae, diodydd, a gweithgareddau chwarae rôl
- creu cynefinoedd bywyd gwyllt sy'n cynnig cyfleoedd i arsylwi a darganfod
- mae pwll uchel gyda physgod aur yn galluogi'r plant i ymgysylltu drwy fwydo a gwylio
- mae llestri, deunyddiau naturiol, a darnau rhydd gan gynnwys cregyn, gwydr môr, moch coed a cherrig mân yn annog archwilio penagored
Mae'r plant yn helpu i ofalu am y planhigion ac yn dewis cynnyrch ffres yn uniongyrchol o welyau'r ardd. Mae'r dull ymarferol hwn yn creu profiadau dysgu ystyrlon am darddiad bwyd, tymhorau, a phrosesau tyfu naturiol wrth gynnig cysylltiadau dwfn â'r byd o'u cwmpas.
Effaith …
- Cysylltiad cadarn â natur a ffynonellau bwyd am fod y plant yn sylwi pan fydd y cynnyrch yn aeddfed ac yn gofyn i'w ddewis.
- Ymwybyddiaeth well o fywyd gwyllt a dysgu sut i ofalu am bethau byw
- Mae deunyddiau naturiol ac elfennau byw yn cynnig cyfleoedd i lesiant emosiynol a thawelwch
- Mae plant yn deall y tymhorau a'r cylchredau yn well
Dyfyniad
Mae'r broses o roi amser i'r plant arafu, archwilio natur, a dilyn eu syniadau eu hunain wrth wraidd yr hyn rwy'n ei wneud. Mae'r ardd yn fwy nag ardal chwarae, mae'n ardal lle maent yn meithrin hyder a chwilfrydedd.’
Dogfennau
-
Victoria Richards ymarfer gwerth ei rannu , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MBPDF, Maint y ffeil:2 MB