Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

12, 14 a 22 Mawrth 2024 – digwyddiadau rhithwir i ddarparwyr

Mae'r digwyddiadau hyn wedi'u hanelu at bob darparwr gwasanaethau oedolion a phlant.

Rydym yn cynnal tri gweithdy rhithwir i ddarparwyr dros Microsoft Teams ym mis Mawrth a fydd yn rhoi'r cyfle i ddarparwyr siarad â Practice Solutions Ltd, a benodwyd i gynnal y gwerthusiad annibynnol o'n cynllun graddau peilot ar gyfer cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref.

Caiff y dolenni ar gyfer y digwyddiadau ar-lein eu anfon yn uniongyrchol drwy e-bost at ddarparwyr yr wythnos yma. Nid oes angen mynychu pob digwyddiad – yr un sesiwn fydd yn cael ei rhedeg ar ddiwrnodau gwahanol.

  • Dydd Mawrth 12 Mawrth, 10am-12 hanner dydd 
  • Dydd Iau 14 Mawrth, 10am–12 hanner dydd
  • Dydd Gwener 22 Mawrth, 10am–12 hanner dydd (sesiwn Gymraeg)

Sylwer, er bod y digwyddiadau hyn yn agored i bob gwasanaeth sydd wedi cofrestru gyda ni o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) (RISCA), gallai fod o fwy o ddiddordeb i wasanaethau cartrefi gofal a gofal cartref gan y bydd y gwasanaethau hyn yn cael eu cynnal. cyhoeddi graddfeydd yn gynt na mathau eraill o wasanaeth.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost i agc.cyfathrebu@llyw.cymru.