Newid o ran rhoi gwybod i ni am achosion o COVID-19 mewn gwasanaethau rheoleiddiedig
Nid oes angen i ddarparwyr ddweud wrthym am achosion posibl mwyach, dim ond rhai a gadarnhawyd.
Ar 12 Mawrth, gofynnwyd i ddarparwyr roi gwybod i AGC am bob achos posibl a phob achos a gadarnhawyd o COVID-19 ymhlith staff a phobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth.
Rhoddodd yr hysbysiadau hyn wybodaeth hanfodol i ni am ledaeniad a nifer yr achosion o COVID-19 mewn gwasanaethau rheoleiddiedig, gan ein galluogi i fod yn eiriolwyr ar ran y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau, darparwyr a'r staff sy'n gweithio ynddynt. Gwnaethom rannu hyn â Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru er mwyn helpu i gael y cymorth priodol a llywio penderfyniadau polisi.
Dywedwch wrthym am achosion a gadarnhawyd
Wrth i brofion gael eu cyflwyno a'i bod yn haws eu cael, credwn fod yr amser yn iawn i roi'r gorau i ofyn am hysbysiadau o achosion posibl o COVID-19.
Rydym am i ddarparwyr barhau i roi gwybod i ni am bob achos o COVID-19 a gadarnhawyd yn unig – y rhai sydd wedi cael canlyniad positif i brawf COVID-19.
Sut i roi gwybod i ni
Dylai darparwyr barhau i ddefnyddio'r hysbysiad clefydau heintus ar AGC Ar-lein i roi gwybod i ni fel y byddent yn rhoi gwybod am unrhyw glefyd heintus. Byddwn yn cyflwyno newidiadau i'r hysbysiad hwn yn fuan er mwyn ei gwneud yn haws cyflwyno'r hysbysiadau hyn, a byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf wrth i hyn fynd rhagddo.
Cynorthwywyr ar-lein penodedig
Gwyddom nad yw'r Unigolion Cyfrifol na'r cynorthwywyr ar-lein enwebedig ar gael nac yn gallu rhoi gwybod i ni bob amser. Gall Unigolion Cyfrifol ddirprwyo pobl eraill sy'n gweithio yn eu gwasanaeth i gyflwyno'r hysbysiadau ar eu rhan. Bydd yr unigolion hynny a ddewisir yn dod yn gynorthwywyr ar-lein penodedig.
Dysgwch fwy am enwebu cynorthwywyr ar-lein ar y dudalen hon.