Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Cynorthwywyr AGC Ar-lein

Gwybodaeth am ddefnyddio cynorthwywyr ar-lein a sut i gofrestru ar AGC Ar-lein.

Pwy all greu cynorthwywyr ar-lein?

Gall Unigolion Cyfrifol, Personau Cyfrifol a Swyddogion Sefydliadol â chyfrif lefel 2 gweithredol ddirprwyo rhywun sy'n gweithio yn eu gwasanaeth fel cynorthwyydd ar-lein.

Bydd cynorthwywyr ar-lein ar gyfer gwasanaethau oedolion a phlant yn gallu gwneud hysbysiadau am y gwasanaeth ar eu rhan.

Dim ond ymateb i geisiadau am wybodaeth y gall cynorthwywyr ar-lein ar gyfer gofal plant a chwarae ei wneud ar hyn o bryd.

Yn ogystal â chynorthwyydd ar-lein, gall unigolyn cyfrifol ddirprwyo Swyddog Sefydliad (h.y., cyfarwyddwr cwmni) i unrhyw wasanaeth ar ôl i'r gwiriadau hunaniaeth perthnasol gael eu cwblhau. Gall swyddog sefydliad gael mynediad at yr un nodweddion ag unigolyn cyfrifol ac mae hwn ar gael ar gyfer unrhyw fath o wasanaeth.

Nodweddion defnyddio cynorthwywyr ar-lein

  • Gall Unigolion Cyfrifol benderfynu pwy i’w ddewis fel cynorthwyydd ar-lein. Rhaid gwneud hyn ar gyfer pob gwasanaeth a ddarperir.
  • Gall unrhyw Unigolyn Cyfrifol mewn gwasanaeth lle mae mwy nag un gwasanaeth ar gael creu neu ddileu cynorthwywyr ar-lein.
  • Ar ôl creu cynorthwywyr ar-lein, byddant  yn gallu creu a chyflwyno rhai hysbysiadau ar gyfer gwasanaeth cofrestredig.

Sut i greu cynorthwyydd ar-lein

Unigolion Cyfrifol

  • Cyn dewis rhywun yn eich gwasanaeth i ddod yn gynorthwyydd ar-lein, mae'n rhaid eich bod wedi dilysu eich cyfrif AGC Ar-lein gan ddefnyddio’ch rhif PIN unigryw.
  • Ni all Unigolion Cyfrifol fod yn gynorthwywyr ar-lein.

Cynorthwywyr ar-lein

Os ydych chi wedi dewis cynorthwyydd ar-lein bydd angen iddo greu cyfrif AGC Ar-lein. (Dolen allanol)  Er mwyn gwneud hyn, bydd angen cyfeiriad e-bost unigol arno.

Pa hysbysiadau y gall cynorthwyydd ar-lein eu gwneud?

Bydd y math o hysbysiad y gall cynorthwyydd ar-lein ei gyflwyno yn dibynnu ar y math o wasanaeth a ddarperir. Dim ond gwasanaethau oedolion a phlant all gyflwyno hysbysiadau ar yr adeg hon.

Hysbysiadau y gallai cynorthwyydd ar-lein eu cyflwyno 

Arweinyddiaeth a Rheolaeth

  • Atgyfeiriad at y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn unol â Deddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006

Llesiant

  • Digwyddiad sy'n rhwystro neu a allai rwystro’r gwasanaeth rhag darparu’r gwasanaeth yn ddiogel i’r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth
  • Marwolaeth unigolyn sy'n defnyddio'r gwasanaeth
  • Cais am Drefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid sy’n cael ei anfon at gorff goruchwylio
  • Damwain ddifrifol, anaf (gan gynnwys wlserau pwyso categori 3 neu 4) neu salwch i berson sy'n defnyddio'r gwasanaeth 
  • Plentyn coll / absenoldeb plentyn yn y gwasanaeth sydd heb ei esbonio *
  • Ymchwiliad amddiffyn plant sy'n ymwneud â phlentyn sy'n derbyn llety yn y gwasanaeth*
  • Achos o glefyd heintus yn y gwasanaeth
  • Honiad o drosedd ddifrifol a gyflawnwyd gan blentyn yn y gwasanaeth*
  • Achos / amheuaeth o achos o gam-fanteisio ar blant yn y gwasanaeth*
  • Achos o gam-drin / honiad o gam-drin sy’n ymwneud ag unigolyn sy'n defnyddio'r gwasanaeth

*Mae'r rhain yn ymwneud â chartrefi gofal i blant yn unig.