Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 8 Medi 2020
  • Newyddion

Rydym yn croesawu eich barn am wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yng nghyngor Sir Penfro

Ym mis Medi 2020 byddwn yn arolygu gwasanaethau cymdeithasol cyngor Sir Penfro, gan gynnwys gwasanaethau ar gyfer plant anabl a phlant sydd wedi cael profiad o ofal.

Os ydych yn derbyn gwasanaethau gofal a chymorth gan gyngor Sir Penfro, neu os ydych yn rhiant neu'n ofalwr plentyn anabl sy'n derbyn gwasanaethau, hoffem glywed am eich profiadau.

Byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau'r naill arolwg neu'r llall isod a rhoi eich adborth i ni erbyn 2 Hydref 2020.

Gallwch hefyd ffonio 0300 7900 126 i gael copi caled.

Caiff ein hadroddiadau arolygu ar gyfer y gwasanaethau hyn eu cyhoeddi ar ein gwefan.

I gael rhagor o wybodaeth am ein rhaglen arolygu, darllenwch yr eitem newyddion hon. (Dolen allanol)