Sut rydym yn arolygu gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol a CAFCASS Cymru
Gwybodaeth a chanllawiau ynglŷn â sut rydym yn arolygu gwasanaethau cymdeithasol oedolion a phlant.
Ein nodau
Fel rhan o'n gwaith gydag awdurdodau lleol, ein nod yw:
- rhoi sicrwydd annibynnol ynghylch ansawdd ac argaeledd gofal cymdeithasol yng Nghymru
- diogelu oedolion a phlant, gan sicrhau bod eu hawliau'n cael eu hamddiffyn
- gwella gofal drwy annog a hyrwyddo gwelliannau o ran diogelwch ac ansawdd gwasanaethau gofal cymdeithasol
- llywio polisïau a safonau a rhoi cyngor proffesiynol annibynnol i'r bobl sy'n datblygu polisïau, y cyhoedd a'r sector gofal cymdeithasol.
Rydym yn cyflawni hyn drwy wneud y canlynol:
- cyflawni swyddogaethau ar ran Gweinidogion Cymru
- penderfynu pwy all ddarparu gwasanaethau
- arolygu gwasanaethau rheoleiddiedig, gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol a CAFCASS Cymru, gan ysgogi gwelliannau
- cynnal adolygiadau thematig o wasanaethau gofal cymdeithasol
- cymryd camau i sicrhau bod gwasanaethau yn bodloni gofynion deddfwriaethol a rheoliadol
- ymchwilio i bryderon am wasanaethau.
Ein hegwyddorion
- Rhoi pobl yn gyntaf: mae llais a llesiant pobl wrth wraidd ein gwaith, a ategir gan ddull seiliedig ar hawliau.
- Gweithredu ar sail gwybodaeth: caiff ein gwaith ei lywio gan ddata a gwybodaeth.
- Bod yn ymatebol ac yn seiliedig ar risg: rydym yn gweithio mewn ffordd amserol a chymesur wedi'i chynllunio ac yn seiliedig ar risg.
- Cydweithio: rydym yn gwrando, yn rhannu gwybodaeth ac yn cydweithio.
- Cefnogi gwelliannau ac arloesi: rydym yn defnyddio ein gwybodaeth a'n pwerau i gefnogi gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant i wella ac i annog ffyrdd newydd o weithio.
- Myfyrio a dysgu: rydym yn cymryd amser i fyfyrio ac i ddysgu o bob agwedd ar ein gwaith, ac i addasu ein dull gweithredu lle bo angen.
Adolygu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol
Ein nod yw cydweithio ag awdurdodau lleol i'w helpu i ddysgu a gwella. Ein man cychwyn yw nodi enghreifftiau o ymarfer cadarnhaol sy'n arwain at ganlyniadau da i bobl. Rydym yn rhannu ein canfyddiadau, gan gynnwys cryfderau, meysydd i'w datblygu a meysydd i'w gwella lle mae angen cymryd camau gweithredu â blaenoriaeth. Byddwn yn rhannu enghreifftiau o ymarfer cadarnhaol er mwyn cefnogi gwelliant ledled Cymru.
Mae ein gwaith yn seiliedig ar dystiolaeth uniongyrchol. Gall arolygwyr arsylwi ar ymarfer, siarad â phobl am eu profiadau, cyfweld â staff rheng flaen a chynnal cyfarfodydd â rhanddeiliaid allweddol. Mae ein canfyddiadau yn seiliedig ar farn broffesiynol arolygwyr profiadol sydd wedi bod yn ymarferwyr.
Mae ein gwaith hefyd wedi'i lywio gan wybodaeth am wasanaethau gofal cymdeithasol a'r effaith y maent yn ei chael ar fywydau pobl sy'n deillio o'n gwaith o arolygu gwasanaethau rheoleiddiedig.
Byddwn yn rhannu'r themâu sy'n deillio o'n hadolygiadau o awdurdodau lleol â chydweithwyr polisi yn Llywodraeth Cymru er mwyn llywio polisi cenedlaethol. Byddwn hefyd yn ystyried pa mor dda y mae bwriadau polisi yn gweithio yn ymarferol.
Ffocws gwaith adolygu perfformiad
Mae pedair egwyddor Deddf 2014 yn gweithredu fel sylfaen i'n gweithgarwch arolygu ac adolygu perfformiad:
Byddwn yn ystyried sut mae gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yn cyflawni'r egwyddorion hyn ar dair lefel:
Unigol – yn canolbwyntio ar brofiad pobl a'u canlyniadau personol
Gweithredol – yn canolbwyntio ar ymarfer a threfniadau gweithredu rheng flaen
Strategol – yn canolbwyntio ar arweinyddiaeth, cynllunio a llywodraethu
Yn ogystal ag ystyried gallu awdurdod lleol i wella ei swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol ei hun yn barhaus, bydd yr arolygiad yn canolbwyntio ar brofiadau a chanlyniadau personol pobl, fel y'u nodir yn eu cofnodion gofal cymdeithasol ac fel y'u disgrifiwyd gan bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau/gofalwyr a staff o'r awdurdod lleol; ac i ba raddau y mae hyn yn gyson â'r dystiolaeth o'n gweithgarwch ymgysylltu ehangach.
Rydym yn ystyried ansawdd arweinyddiaeth a threfniadau llywodraethu gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol a sut mae hyn yn helpu i gyflawni canlyniadau cadarnhaol a gwelliannau o ran y gofal a'r cymorth a ddarperir.
Mathau o arolygiadau
Rydym yn cynnal tri phrif fath o arolygiad mewn perthynas ag awdurdodau lleol:
- Arolygiad gwerthuso perfformiad
- Gwiriad sicrwydd
- Gwiriad gwella
Os bydd adnoddau yn caniatáu, mae'n bosibl y byddwn yn cynnal adolygiad thematig. Gallwn arwain a/neu gyfrannu at adolygiadau thematig naill ai'n annibynnol neu gyda chyrff arolygu eraill.
Gweithio gydag arolygiaethau eraill
Rydym yn gweithio gydag arolygiaethau eraill fel rhan o'n harolygiad. Mae hyn yn cynnwys Arolygiaeth Cymru, sef rhaglen waith ar y cyd rhyngom ni, yr Archwilydd Cyffredinol a Swyddfa Archwilio Cymru, Estyn, ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (Dolen allanol). Rydym hefyd yn cydweithio'n agos gydag arolygiaethau'r DU, gan gynnwys arolygiaethau Cwnstabliaeth, Carchardai a Phrofiannaeth.
Canllaw
Rydym wedi llunio canllawiau ar ein fframwaith ar gyfer arolygu gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol a CAFCASS Cymru.
Dogfennau
-
Cod ymarfer awdurdodau lleol - Hawdd ei ddarllen , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MBPDF, Maint y ffeil:2 MB