Cyhoeddwyd ein gwerthusiad o berfformiad gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Sir Powys heddiw
Mae'r llythyr yn crynhoi canfyddiadau ein harolygiad a gynhaliwyd rhwng 14 a 18 Medi 2020.
Yn ystod yr arolygiad, ystyriwyd pa mor dda y mae gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Sir Powys yn parhau i helpu a chefnogi oedolion a phlant, gan ganolbwyntio ar ddiogelwch a llesiant.
Ar gyfer yr arolygiad hwn, gwnaethom ystyried diogelwch gwasanaethau, diogelwch a llesiant y bobl sy'n gweithio mewn gwasanaethau, a diogelwch a llesiant y bobl sy'n defnyddio gwasanaethau, neu y gall fod angen iddynt eu defnyddio.
Mae'r canfyddiadau yn yr adroddiad hwn yn dangos bod yr awdurdod lleol wedi gwneud cynnydd sylweddol ers ein harolygiadau diwethaf ym mis Hydref 2018 (gwasanaethau plant) a mis Ionawr 2018 (gofal cymdeithasol i oedolion). Gellir gweld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion sy'n deillio o'r arolygiad hwn yn y llythyr Arolygiad Gwerthuso Perfformiad o Wasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Powys a anfonwyd at yr awdurdod lleol ar 29 Hydref 2020.