Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Gwerthusiad o berfformiad awdurdod lleol: Gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Sir Powys

Mae'r llythyr hwn yn crynhoi canfyddiadau ein harolygiad gwerthuso perfformiad a gynhaliwyd rhwng 14 ac 18 Medi 2020.

Diben yr arolygiad hwn oedd ystyried pa mor dda y mae Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Powys yn parhau i helpu a chefnogi oedolion a phlant, gan ganolbwyntio ar ddiogelwch a llesiant.

Ar gyfer yr arolygiad hwn, gwnaethom ystyried diogelwch gwasanaethau, diogelwch a llesiant y bobl sy'n gweithio mewn gwasanaethau, a diogelwch a llesiant y bobl sy'n defnyddio gwasanaethau, neu y gall fod angen iddynt eu defnyddio.

Trosolwg

Pobl – llais a rheolaeth: Nodwyd gennym y gall pobl ym Mhowys fod yn siŵr bod yr awdurdod lleol yn ymrwymedig i sicrhau bod lleisiau pobl yn cael eu clywed a'u bod yn cael y gofal a'r cymorth sydd eu hangen arnynt. Mae angen gwneud gwaith i gefnogi gwelliant parhaus a rhoi arferion da ar waith ym mhob maes gwasanaeth.

Atal: Nodwyd gennym fod cyfathrebu'n well rhwng swyddogion yr awdurdod lleol ac aelodau'r cyngor, gyda ffocws ar y cyd ar atal, a fydd yn sicrhau y bydd cymunedau a gwasanaethu yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Llesiant: Nodwyd gennym fod uwch-reolwyr ac aelodau arweiniol wedi cyflwyno diwylliant newydd o ddisgwyliadau a safonau ym maes gofal cymdeithasol ym Mhowys. Mae'r awdurdod lleol yn ymwybodol o'r heriau sy’n gysylltiedig â hyn ac mae'n gweithio'n galed gyda phob rhanddeiliad i gefnogi diogelwch a llesiant y bobl sy'n gweithio mewn gwasanaethau, a diogelwch a llesiant y bobl sy'n defnyddio gwasanaethau, neu y gall fod angen iddynt eu defnyddio.

Partneriaethau, integreiddio a chydgynhyrchu: Mae'n rhaid i'r awdurdod lleol barhau i ddatblygu a myfyrio ar bwysigrwydd arweinyddiaeth a llywodraethu effeithiol wrth sicrhau ei fod yn llwyddo i gyflawni ei gyfrifoldebau a swyddogaethau statudol.

Y camau nesaf

Rydym yn disgwyl y bydd y meysydd i'w gwella rydym wedi'u nodi yn cael eu cynnwys yng nghynlluniau gwella'r awdurdod lleol. Byddwn yn monitro cynnydd drwy ein gweithgarwch gwerthuso perfformiad parhaus gyda Chyngor Sir Powys.

Darllenwch y llythyr llawn isod i weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion.