Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 19 Tachwedd 2020
  • Newyddion

Rydym wedi cyhoedd Adroddiad Blynyddol ein Prif Arolygydd ar gyfer 2019-20

Mae ein hadroddiad blynyddol yn amlinellu ein gwaith drwy gydol y flwyddyn flaenorol.

Dengys adroddiad blynyddol 2019-20 ein bod ni wedi rheoleiddio 5,873 o wasanaethau, ac wedi cynnal 2,297 o arolygiadau mewn gwasanaethau oedolion a phlant, a gofal plant a chwarae yng Nghymru.

Mae'r adroddiad hefyd yn amlinellu'r ffordd rydym wedi gweithio gyda darparwyr i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau. Gwnaeth 72% o Wasanaethau Oedolion a Phlant ac 85% o wasanaethau gofal plant a chwarae nad oeddent yn cydymffurfio â'r gyfraith wella erbyn ein harolygiad nesaf.

Effaith COVID-19

Er bod yr adroddiad blynyddol hwn yn cwmpasu'r cyfnod hyd at ddiwedd mis Mawrth 2020, mae'n bwysig cydnabod effaith COVID-19 ar bobl sy'n defnyddio

gwasanaethau gofal cymdeithasol a gwasanaethau gofal plant a chwarae yng Nghymru ac yn gweithio ynddynt.

Yn ystod y pandemig, gwnaethom gynyddu'n sylweddol ein cyswllt â darparwyr gwasanaethau i gynnig cymorth a sicrwydd ynghylch ansawdd a diogelwch y gwasanaethau hyn.

Dywedodd y Prif Arolygydd Gillian Baranski:

Hoffwn gydnabod ymrwymiad ac ymroddiad arbennig pob un sy'n gweithio mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant a chwarae yng Nghymru yn ystod y pandemig. Ar ran Arolygiaeth Gofal Cymru, hoffwn fynegi ein hedmygedd a diolch i chi o waelod calon.