Diweddariad ar ein rhaglen gwirio ansawdd i awdurdodau lleol ar gyfer 2020-21
Rydym yn parhau i gynnal gwiriadau sicrwydd ac yn ymgysylltu'n llawn â phob awdurdod lleol.
Rydym yn cydnabod y pwysau sylweddol sydd ar wasanaethau awdurdodau lleol ac mae'n hollbwysig ein bod yn parhau i gydweithio â nhw yn ystod y cyfnod anodd hwn. Yn sgil y pwysau parhaus a achosir gan y pandemig, byddwn yn rhoi terfyn ar ein hadolygiad cenedlaethol o blant anabl ac yn cyhoeddi ein hadolygiad trosolwg cenedlaethol yn ddiweddarach eleni.
Diben y gwiriad ansawdd fydd gweld pa mor dda y mae gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yn parhau i helpu oedolion, plant a gofalwyr yn ystod y cyfnod anodd hwn ac ystyried eich cynlluniau ar gyfer cynaliadwyedd y gwasanaethau yn y dyfodol.
Byddwn yn canolbwyntio ar y canlynol:
- Pa mor dda y mae awdurdodau lleol yn cyflawni eu swyddogaethau statudol o ran cadw pobl y mae angen gofal a chymorth arnynt a gofalwyr y mae angen cymorth arnynt yn ddiogel a hyrwyddo eu llesiant, yn ystod y pandemig.
- 1. Pa mor dda y mae awdurdodau lleol yn atal yr angen i blant dderbyn gofal ac a yw plant yn dychwelyd gartref i'w teuluoedd yn ddigon cyflym, lle y bo'n ddiogel i wneud hynny.
Dim ond y gweithgareddau sy'n ofynnol, yn hanfodol ac yn gymesur i ateb y cwestiynau cyffredinol y byddwn yn eu cwblhau yn ystod ein Gwiriad Sicrwydd. Byddwn yn cydweithio ag awdurdodau lleol i addasu ein dull lle y bo angen er mwyn darparu ar gyfer amgylchiadau eithriadol, a chaiff hyn ei drafod â phob awdurdod lleol.
Sut y gallwch gymryd rhan
Gallwch roi eich adborth ar wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol ar unrhyw adeg. Ewch i'n tudalen arolygu a chlicio ar ‘Sut y gallwch gymryd rhan yn ein gwaith’, er mwyn dod o hyd i ddolenni i'n harolygon.