Rydym wedi gwella ein proses ar gyfer codi pryder
Darllenwch ein canllawiau newydd a gyhoeddwyd heddiw.
Rydym wedi gwella ein proses ar gyfer codi pryder. Heddiw, rydym yn cyhoeddi canllawiau newydd, sy'n nodi ein rôl a'r a'r ffordd rydym yn ymdrin â phryderon ar ôl iddynt ddod i law.
Mae pryderon yn ffynhonnell wybodaeth bwysig i ni ac yn aml fe'u codir gan y bobl sy'n defnyddio ac yn dibynnu ar ofal cymdeithasol neu ofal plant a gwasanaethau chwarae yng Nghymru; yn ogystal â'u perthnasau, ymwelwyr, staff, gweithwyr proffesiynol neu gymdogion.
Ewch i 'Darparu adborth ar wasanaethau gofal' i ddarllen ein canllawiau newydd a chanfod sut y gallwch godi pryder â ni.