Rydym wedi cyhoeddi'r fersiwn ddiweddaraf o'n Polisi Sicrhau Gwelliant a Gorfodi
Mae'r polisi hwn yn nodi'r egwyddorion a'r prosesau rydym yn eu dilyn er mwyn sicrhau bod gwasanaethau rheoleiddiedig yn cefnogi pobl i gyflawni'r canlyniadau gorau posibl, ac yn cadw pobl yn ddiogel.
Rydym yn arolygu gwasanaethau er mwyn cadarnhau eu bod yn darparu gofal diogel ac yn bodloni gofynion y gyfraith. Mae ein polisi Sicrhau Gwelliant a Gorfodi' yn esbonio'r hyn a wnawn os na fydd gwasanaethau yn darparu gofal o ansawdd da, neu os na fyddant yn bodloni gofynion y gyfraith.
Digwyddiadau i ddarparwyr
Byddwn yn cynnal tri digwyddiad rhithiol yn nes ymlaen y mis hwn i gefnogi darparwyr i ddeall y newidiadau diweddaraf i'r polisi. Mae manylion y digwyddiadau i'w gweld ar ein tudalen digwyddiadau 15, 17 a 18 Mawrth 2021 Digwyddiadau i ddarparwyr ar y fersiwn ddiweddaraf o'n Polisi Sicrhau Gwelliant a Gorfodi.
Mae'r polisi Sicrhau Gwelliant a Gorfodi i'w gweld yn yr adran lawrlwythiadau isod.