Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 24 Mawrth 2021
  • Newyddion

Cyhoeddi adolygiad cenedlaethol o ddefnyddio Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS)

Canfyddiadau allweddol ac argymhellion o'n hadroddiad ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Iechyd (AGIC) Cymru.

Datblygwyd DoLS er mwyn sicrhau bod hawliau dynol pobl yn cael eu diogelu a'u cynnal, a bod y gofal a gânt er eu budd pennaf ac yn cael ei ddarparu yn y ffordd leiaf gyfyngol.

Mae'r Trefniadau Diogelu yn berthnasol i bobl dros 18 oed na allant gydsynio i driniaeth neu ofal mewn ysbyty neu gartref gofal. Maent yn darparu fframwaith cyfreithiol ar gyfer amddifadu er mwyn atal achosion o dorri'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.

Canfyddiadau Allweddol 2019-20

  • Rydym wedi parhau i weld cynnydd blynyddol yn nifer y ceisiadau a dderbynnir gan gyrff goruchwylio, gydag 28% yn fwy o geisiadau yn cael eu derbyn gan fyrddau iechyd yn 2019-20.
  • O blith y ceisiadau hynny a wrthodwyd gan gyrff goruchwylio, cafodd tua hanner eu gwrthod am nad oedd yr amod galluedd meddyliol wedi'i fodloni.
  • Gan mai ceisiadau gan gartrefi gofal neu wardiau ysbytai ar gyfer oedolion hŷn oedd llawer o'r ceisiadau am DoLS, ceisiadau ar gyfer oedolion hŷn oedd y mwyafrif o hyd, gyda mwy nag 85% ohonynt ar gyfer pobl dros 65 oed, ac roedd y rhan fwyaf ohonynt yn bobl a oedd yn byw mewn cartrefi gofal neu'n gleifion mewn wardiau ysbyty ar gyfer oedolion hŷn.
  • Hyd at 64 oed, roedd mwy o awdurdodiadau DoLS yn cael eu gwneud ar gyfer dynion na menywod, ond ar ôl 85 oed, roedd nifer sylweddol uwch o'r awdurdodiadau yn ymwneud â menywod.

Darllenwch yr adroddiad llawn a'r holl ganfyddiadau allweddol isod.