Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Adolygiad cenedlaethol o ddefnyddio Trefniadau Diogelu wrth Amddifadu o Ryddid (DoLS) yng Nghymru

Canfyddiadau allweddol ac argymhellion o'n hadolygiad ar y cyd ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC).

Mae AGIC ac AGC yn gyfrifol ar y cyd am fonitro ac adrodd ar DoLS, ac yn cyhoeddi adroddiad blynyddol ar y ceisiadau a dderbynnir gan Fyrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol bob blwyddyn.

Beth yw'r Trefniadau Diogelu

Mae'r Trefniadau Diogelu yn bodoli er mwyn grymuso ac amddiffyn unigolion nad oes ganddynt alluedd meddyliol. Maent yn darparu fframwaith cyfreithiol er mwyn atal achosion o dorri'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol gan fod yn rhaid cael awdurdodiad cyn y gellir amddifadu unigolyn o'i ryddid.

Canfyddiadau Allweddol 2019-20

  • Rydym wedi parhau i weld cynnydd blynyddol yn nifer y ceisiadau a dderbynnir gan gyrff goruchwylio, gydag 28% yn fwy o geisiadau yn cael eu derbyn gan fyrddau iechyd yn 2019-20.
  • O blith y ceisiadau hynny a wrthodwyd gan gyrff goruchwylio, cafodd tua hanner eu gwrthod am nad oedd yr amod galluedd meddyliol wedi'i fodloni.
  • Gan mai ceisiadau gan gartrefi gofal neu wardiau ysbytai ar gyfer oedolion hŷn oedd llawer o'r ceisiadau am DoLS, ceisiadau ar gyfer oedolion hŷn oedd y mwyafrif o hyd, gyda mwy nag 85% ohonynt ar gyfer pobl dros 65 oed, ac roedd y rhan fwyaf ohonynt yn bobl a oedd yn byw mewn cartrefi gofal neu'n gleifion mewn wardiau ysbyty ar gyfer oedolion hŷn.
  • Hyd at 64 oed, roedd mwy o awdurdodiadau DoLS yn cael eu gwneud ar gyfer dynion na menywod, ond ar ôl 85 oed, roedd nifer sylweddol uwch o'r awdurdodiadau yn ymwneud â menywod.

Darllenwch yr adroddiad llawn a'r holl ganfyddiadau allweddol isod.