Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 21 Mehefin 2021
  • Newyddion

Rydym wedi cyhoeddi llythyr heddiw yn crynhoi canfyddiadau ein gweithgarwch monitro mewn perthynas â gwasanaethau cymdeithasol Wrecsam i blant a gynhaliwyd rhwng 26 Ebrill 2021 a 29 Ebrill 2021

Bwriad y gweithgarwch monitro yw rhoi sicrwydd bod gwasanaethau cymdeithasol Wrecsam yn parhau ar drywydd cadarnhaol tuag at wella.

Aeth Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ati i fonitro gwasanaethau cymdeithasol plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam er mwyn gwneud gwaith dilynol mewn perthynas â chanfyddiadau ein harolygiad ym mis Hydref 2020 lle gwnaethom farnu bod y gwasanaethau yn parhau i fod yn annigonol, ond bod arwyddion cynnar o welliant. Mae hynny'n golygu bod y gwasanaethau yn methu â chyflawni dyletswyddau statudol yn gyson, ond ni nodwyd bod y plant heb gael eu cefnogi, na'u bod yn wynebu risg uniongyrchol o niwed neu gamdriniaeth.

O'r dystiolaeth a gasglwyd yn ystod yr ymweliad monitro hwn, rydym o'r farn bod gwasanaethau cymdeithasol plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn parhau i wneud y gwelliannau sy'n ofynnol.

Rydym yn bwriadu gwneud gwaith dilynol drwy gynnal ymweliad monitro arall yn ystod y chwech i wyth mis nesaf, a chynnal arolygiad llawn mewn 12 mis. Gellir gweld ein holl ganfyddiadau o'r ymweliad monitro hwn yn y llythyr a gyflwynwyd i'r awdurdod lleol sydd wedi'i atodi isod.