Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Llythyr parthed gweithgarwch monitro yn awdurdod lleol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Mae'r llythyr hwn yn crynhoi canfyddiadau ein gweithgarwch monitro mewn perthynas â gwasanaethau cymdeithasol Wrecsam i blant a gynhaliwyd rhwng 26 Ebrill 2021 a 29 Ebrill 2021.

Aeth Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ati i fonitro gwasanaethau cymdeithasol plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam er mwyn gwneud gwaith dilynol mewn perthynas â chanfyddiadau ein harolygiad ym mis Hydref 2020 lle gwnaethom farnu bod y gwasanaethau yn parhau i fod yn annigonol, ond bod arwyddion cynnar o welliant. Mae hynny'n golygu bod y gwasanaethau yn methu â chyflawni dyletswyddau statudol yn gyson, ond ni nodwyd bod y plant heb gael eu cefnogi, na'u bod yn wynebu risg uniongyrchol o niwed neu gamdriniaeth.

O'r dystiolaeth a gasglwyd yn ystod yr ymweliad monitro hwn, rydym o'r farn bod gwasanaethau cymdeithasol plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn parhau i wneud y gwelliannau sy'n ofynnol.

Canfyddiadau

  • Gwelsom dystiolaeth o well disgwyliadau o ran goruchwyliaeth gan y rheolwyr, a chydweithwyr yn atgoffa ei gilydd i gwblhau gwaith i safon uchel o fewn terfynau amser priodol er budd plant.
  • Gwelsom fod y nodiadau achos yn hawdd eu dilyn, a'i bod yn hawdd nodi diben ymwneud yr awdurdod lleol â bywyd y plentyn.
  • Soniodd yr ymarferwyr wrthym am y system goleuadau traffig a roddwyd ar waith i nodi plant sy'n wynebu risg a sicrhau bod y rheolwyr yn goruchwylio achosion o'r fath ac yn monitro ansawdd y cymorth a gynigir ddwywaith yr wythnos.
  • Clywsom fod ymarferwyr wedi gallu gwella arferion cofnodi mewn ffeiliau achos ac arferion rhannu gwybodaeth rhwng timau, gan eu helpu i gael mwy o wybodaeth.
  • Gwnaethom nodi bod yn rhaid i'r awdurdod lleol weithredu ar frys i wella'r ffordd y mae'n hwyluso cyfarfodydd er mwyn diogelu plant sy'n agored i niwed, a rhoi'r adnoddau sydd eu hangen ar weithwyr cymdeithasol i gyflawni eu dyletswyddau proffesiynol. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod technoleg gwybodaeth ar gael yn eang er mwyn ymgysylltu â phlant a gweithwyr proffesiynol eraill mewn modd effeithiol ac effeithlon o fewn amserlenni statudol.
  • Gwelsom dystiolaeth fod uwch-reolwyr newydd yn deall pa mor bwysig yw rhwydweithiau a chydweithio i ganlyniadau gwell i blant, lle ceir disgwyliadau uwch o ran llwyddiant.
  • Dywedodd asiantaethau partner allweddol wrthym am y ffordd y mae cydberthnasau cadarnhaol newydd yn cael eu meithrin ac yn dechrau cynnig cyfleoedd newydd i ddatblygu'r gwasanaeth.

Y camau nesaf

Rydym yn bwriadu gwneud gwaith dilynol drwy gynnal ymweliad monitro arall yn ystod y chwech i wyth mis nesaf, a chynnal arolygiad llawn mewn 12 mis.

Darllenwch y llythyr llawn isod i weld ein holl ganfyddiadau ac argymhellion.