Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 7 Gorffennaf 2021
  • Newyddion

Rydym bellach yn prosesu gwiriadau Prawf Adnabod y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) drwy Swyddfa'r Post

Ni fyddwn yn gofyn i chi fynd i wiriad prawf adnabod rhithwir na gwiriad prawf adnabod wyneb yn wyneb yn un o swyddfeydd AGC.

Wrth gwblhau eich ffurflen gais ar-lein, bydd y system yn eich ysgogi i drefnu apwyntiad gwirio prawf adnabod mewn Swyddfa Bost o'ch dewis sy'n cynnig y gwasanaeth. Bydd ffi weinyddol fach o £12 am y gwasanaeth hwn.

Dysgwch fwy am broses Prawf Adnabod newydd y DBS drwy Swyddfa'r Post yn yr adran o'n gwefan sy'n trafod gwiriadau'r DBS. Os bydd gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost atom yn AGC@llyw.cymru.