Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

Archwiliadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Pen Arolygiaeth Gofal Cymru yn gowredd ar Ffurflen

Gwybodaeth am sut i gyflwyno cais am archwiliadau gan y Gwasanaeth Datgelu.

Rydym eisiau sicrhau bod pobl sy'n derbyn gwasanaethau yn ddiogel. 

Mae'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn gyfrifol am y canlynol:

  • Prosesu ceisiadau am wiriadau o gofnodion troseddol
  • Penderfynu a yw'n briodol rhoi unigolyn ar restr wahardd neu ei dynnu oddi arni
  • Ychwanegu neu dynnu pobl oddi ar restr wahardd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer plant ac oedolion yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr.

Mae'n ofynnol i ni rannu gwybodaeth â'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd pan fo angen.

Newidiadau i'r ffordd rydych yn cael gwiriad prawf adnabod y DBS

Rydym yn newid y broses ar gyfer cynnal gwiriadau prawf adnabod y DBS o 1 Gorffennaf 2021 ymlaen.

O'r dyddiad hwn, ni fydd angen i chi fynd i wiriad prawf adnabod rhithwir neu wyneb yn wyneb yn un o swyddfeydd AGC yn ystod eich oriau gwaith. Bydd modd i chi ddefnyddio'r gwasanaeth gwirio prawf adnabod a ddarperir mewn Swyddfa Bost leol. Mae ffi weinyddol fach ar gyfer y gwasanaeth hwn, fydd yn daladwy gan yr ymgeisydd (dim ond ar ôl i'r holl ddogfennaeth gywir gael ei darparu).

Drwy ddefnyddio gwasanaeth Swyddfa'r Post mae modd cael:

  • Apwyntiadau gwirio prawf adnabod mewn 191 o leoliadau ledled Cymru
  • Apwyntiadau 6 diwrnod yr wythnos, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn
  • Amseroedd apwyntiadau rhwng 9am a 5.30pm (dylid ystyried amseroedd agor Swyddfeydd Post unigol cyn mynd)

Pwy sy'n gorfod gwneud cais am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Mae'n rhaid i'r holl weithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru feddu ar dystysgrif gyfredol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd sy'n cynnwys gwiriad 'Manylach â Rhestr Wahardd' ar gyfer y gweithlu perthnasol. Gall y rhan fwyaf o bobl gael eu gwiriad drwy eu cyflogwr neu gorff ymbarél.

Os nad yw hyn yn bosibl ac rydych yn dymuno cyflwyno cais i gofrestru gyda ni, neu os ydych yn adnewyddu eich tystysgrif, gallwn eich helpu chi gyda'ch gwiriad.

Gallwch wneud cais am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd drwy ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein os ydych yn gwneud un o'r swyddi canlynol neu os ydych yn un o'r canlynol:

  • Unigolyn cofrestredig;
  • Unigolyn cyfrifol;
  • Gwarchodwr plant;
  • Cynorthwyydd Gwarchodwr Plant; neu
  • Aelod o'r cartref (gwarchodwr plant)

Sut i wneud cais am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

  1. Mae'n rhaid i chi gysylltu a’n swyddfa er mwyn gofyn am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar 0300 7900 126 gan ddewis opsiwn 3
  2. Byddwn yn cadarnhau os ydych yn gymwys am wiriad ac os nad yw'n bosibl i chi gwblhau eich gwiriad drwy eich cyflogwr
  3. Unwaith i ni gadarnhau hyn byddwn yn eich cyfeirio at ein darparwr trydydd parti
  4. Byddwch yn cael e-bost cadarnhau gan ein darparwr trydydd parti a fydd yn cynnwys y manylion mewngofnodi y bydd arnoch eu hangen er mwyn cwblhau eich cais ar-lein i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
  5. Mae'n rhaid i chi ddefnyddio'r manylion hyn i fewngofnodi i'n gwasanaeth ar-lein a chwblhau eich cais am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
  6. Fel rhan o'ch cais DBS, bydd angen i chi fynd i Swyddfa Bost leol gyfagos i gadarnhau pwy ydych. Bydd y ffurflen gais ar-lein yn gofyn i chi ddewis y dogfennau adnabod y byddwch yn mynd â nhw gyda chi i Swyddfa'r Post.
  7. Unwaith y byddwch wedi dewis eich dogfennau adnabod a darparu'r wybodaeth ofynnol, bydd y system ar-lein yn cynhyrchu cod QR.
  8. Bydd angen i chi fynd â'r cod QR a'r dogfennau adnabod a ddewiswyd i Swyddfa Bost lle y bydd yn cadarnhau pwy ydych.
  9. Unwaith y bydd Swyddfa'r Post wedi cadarnhau pwy ydych, bydd yn cadarnhau hyn gyda'n darparwr trydydd parti
  10. Bydd ein darparwr trydydd parti'n cydlofnodi eich cais i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ac yn ei anfon at y  Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd er mwyn ei brosesu
  11. Bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn cynnal ei wiriadau ac yn cyflwyno eich tystysgrif Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd i chi. Byddant hefyd yn rhoi gwybod i ni pan fydd eich gwiriad wedi cael ei gwblhau, a'r canlyniad
  12. Os yw tystysgrif yn cynnwys gwybodaeth 'gadarnhaol' er enghraifft, euogfarnau, neu restrau gwahardd, wedyn byddwn yn ystyried hyn ymhellach.
  13. Os byddwch wedi cofrestru â Gwasanaeth Diweddaru'r DBS, bydd eich tystysgrif DBS yn parhau'n gyfredol cyhyd ag y byddwch yn parhau i dalu eich tanysgrifiad blynyddol. Felly, ni fydd yn ofynnol i chi ddod i apwyntiadau gwirio prawf adnabod bob tair blynedd, cyhyd â bod eich tanysgrifiad yn weithredol o hyd a/neu na fydd unrhyw newid i unrhyw wybodaeth yn eich gwiriad DBS. Mae rhagor o wybodaeth am sut i danysgrifio i'r gwasanaeth diweddaru ar gael yma.

A oes modd i mi ddefnyddio fy nhystysgrif bresennol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd pan fyddaf yn gwneud cais i gofrestru?

Ar gyfer y rhan fwyaf o wasanaethau caniateir i chi ddefnyddio eich tystysgrif Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gyfredol i gefnogi eich cais i gofrestru yn yr achosion canlynol:

  • Nid yw'n fwy na thri mis ers y dyddiad cyhoeddi gwreiddiol
  • Mae ar gyfer gwiriad manylach gyda'r rhestr wahardd ac yn ymwneud â'r gweithlu yr ydych yn gwneud cais amdano
  • Rydym wedi gweld eich tystysgrif wreiddiol

Os nad ydych yn gallu bodloni'r gofynion uchod, bydd angen i chi wneud cais newydd i’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Cofrestru gyda Gwasanaeth Diweddaru'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd

Mae Gwasanaeth Diweddaru'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn eich galluogi i gadw eich tystysgrif Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (Saesneg yn unig, Dolen allanol) yn gyfredol er mwyn caniatáu i chi fynd â hi gyda chi pan fyddwch yn newid swydd neu rôl o fewn yr un gweithlu. 

Mae cofrestru gyda Gwasanaeth Diweddaru'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn golygu na fydd angen i chi adnewyddu'ch tystysgrif cyhyd â'ch bod yn cynnal eich tanysgrifiad blynyddol ac mae eich tystysgrif yn parhau i fod yn 'gyfredol' – hynny yw, nid oes unrhyw wybodaeth newydd yn cael ei datgelu. Gallwch gofrestru ar gyfer Gwasanaeth Diweddaru'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd wrth i chi gwblhau eich ffurflen gais ar-lein.

Gweithredir y Gwasanaeth Diweddaru gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae rhagor o wybodaeth a chanllawiau ar ei wefan. (Saesneg yn unig, Dolen allanol)