Gwnewch wahaniaeth i fywydau pobl sy'n derbyn gofal yng Nghymru
Rydym yn recriwtio ar gyfer amrywiaeth ENFAWR o gyfleoedd gan gynnwys Arolygwyr, Rheolwyr Tîm ac Uwch Reolwyr.
Rydym yn recriwtio ar gyfer amrywiaeth ENFAWR o gyfleoedd gan gynnwys Arolygwyr, Rheolwyr Tîm ac Uwch Reolwyr. Mae rhai o’r rolau hyn (ond nid pob un) yn Gymraeg hanfodol.
Efallai y bydd y rôl yn apelio at weithwyr proffesiynol o amrywiaeth o wasanaethau megis Gofal Cymdeithasol, Addysgu, Gofal Iechyd, Rheoli a Nyrsio sydd am newid gyrfa a gwneud gwahaniaeth i fywydau’r sawl sy’n agored i niwed yng Nghymru.
Mae’n gyfle gwych i ymuno â’n sefydliad, ac rydym yn awyddus i annog amrywiaeth eang o geisiadau amrywiol.
Rydym wedi ehangu ein meini prawf - cymerwch gip:
Mae meddu ar gymhwyster gofal cymdeithasol/addysg cydnabyddedig yn ogystal â phrofiad perthnasol yn ddelfrydol. Fodd bynnag, derbynnir ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n gymwys i lefel gradd neu'n uwch (mewn unrhyw bwnc) sydd â phrofiad sylweddol o ddiogelu a/neu wella canlyniadau i bobl mewn cyd-destun iechyd neu ofal cymdeithasol.
Enghreifftiau o gymwysterau gofal cymdeithasol / addysg derbyniol yw (ond heb fod yn gyfyngedig i):
- Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol (neu gymhwyster Gofal Cymdeithasol Cymru cyfatebol),
- cymhwyster nyrsio neu gymhwyster sy'n gysylltiedig â gofal iechyd,
- cymhwyster addysgu neu addysg,
- gradd mewn Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar/Plentyndod,
- Diploma Lefel 5 mewn Arwain Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol neu mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
Ar ddechrau mis Tachwedd, byddwn yn cynnal ffair recriwtio rhithwir ar-lein ar gyfer rolau'r arolygydd YN UNIG. Byddwch yn gallu siarad â'n harolygwyr a'n tîm AD am y rôl a'r broses recriwtio. Llwyddodd 50% o'r ymgeiswyr a fynychodd ein ffair recriwtio Arolygydd diwethaf i gael swydd gyda ni, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n mynychu sesiwn os oes gennych ddiddordeb mewn rôl Arolygydd.
I archebu lle, e-bostiwch ein Tîm AD.
Gweler isod dolen i'n tudalen we lle gallwch ddod o hyd i fanylion pellach am y swyddi gwag.