
Gwybodaeth am ein swyddi gwag cyfredol a sut y gellwch nweud cais.
Pam y dylech weithio i ni
Mae ein timau’n cynnwys pobl broffesiynol sydd â sgiliau ac arbenigeddau gwahanol i sicrhau bod gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol yn ddiogel ar gyfer y bobl sy'n eu defnyddio.
Gall gweithio i ni fod yn rôl sy'n rhoi boddhad p'un chi'n gweithio gyda'n timau cofrestru, arolygu, a gorfodi neu yn ein tîm gwasanaethau cymorth sy'n cynnwys ein timau cyfathrebu, AD a dysgu a datblygu.
Meini prawf ar gyfer rolau'r arolygydd
Mae meddu ar gymhwyster gofal cymdeithasol/addysg cydnabyddedig yn ogystal â phrofiad perthnasol yn ddelfrydol. Fodd bynnag, derbynnir ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n gymwys i lefel gradd neu'n uwch (mewn unrhyw bwnc) sydd â phrofiad sylweddol o ddiogelu a/neu wella canlyniadau i bobl mewn cyd-destun iechyd neu ofal cymdeithasol.
Enghreifftiau o gymwysterau gofal cymdeithasol / addysg derbyniol yw (ond heb fod yn gyfyngedig i):
- Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol (neu gymhwyster Gofal Cymdeithasol Cymru cyfatebol),
- cymhwyster nyrsio neu gymhwyster sy'n gysylltiedig â gofal iechyd,
- cymhwyster addysgu neu addysg,
- gradd mewn Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar/Plentyndod,
- Diploma Lefel 5 mewn Arwain Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol neu mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant
Swyddi gwag
Gallwch hefyd ymweld â GoFalwn Cymru (Dolen allanol) – Basdata o gyfleoedd am swyddi blynyddoedd cynnar a gofal cymdeithasol.
Cofrestrwch i dderbyn hysbysebion swyddi
Os oes diddordeb gennych mewn gweithio i ni gallwch gofrestru i dderbyn hysbysebion swyddi. Pan gaiff swyddi eu hysbysebu byddwch yn derbyn e-bost ynglŷn â'n swyddi gwag cyfredol.
Dogfennau
-
Taflen recriwtio , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 235 KBPDF, Maint y ffeil:235 KB