Rydym wedi cyhoeddi 'Gadewch imi ffynnu’, ein hadolygiad cenedlaethol o gymorth cynnar, gofal a chefnogaeth, a threfniadau pontio ar gyfer plant anabl yng Nghymru
Gwnaethom edrych ar ba mor dda mae awdurdodau lleol, yn gweithio gyda'u partneriaid, yn darparu cymorth cynnar, gofal a chefnogaeth ar gyfer plant anabl.
Gan gydweithio ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, dechreuodd ein rhaglen adolygu genedlaethol ym mis Tachwedd 2019.
Gwnaethom ystyried pa mor dda yr oedd plant anabl yn cael eu cefnogi i gyrraedd eu potensial llawn a sut yr oedd gweithwyr proffesiynol a sefydliadau gwahanol yn gweithio gyda'i gilydd, mewn partneriaeth â theuluoedd, i sicrhau bod plant yn cael mynediad at y cymorth cywir, ac yn ei dderbyn, ar yr adeg gywir. Hefyd, gwnaethom adolygu pa mor effeithiol yr oedd awdurdodau lleol wrth sicrhau y gwrandewir ar leisiau plant anabl a'u teuluoedd.
Dywedodd Gillian Baranski, ein Prif Arolygydd, y canlynol am gyhoeddi’r adroddiad:-
Nid yw erioed wedi bod yn bwysicach i lesiant plant anabl yng Nghymru fod yn ganolbwynt ein sylw. Gwnaethom ymrwymo i gwblhau'r adolygiad hwn yn ystod cyfnod heriol gan ein bod yn ymwybodol bod y pandemig yn cael effaith ar gymorth i blant anabl. Mae hyrwyddo llesiant plant anabl yn dibynnu ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn cydweithio'n effeithiol. Mae'r adolygiad a'i ganfyddiadau yn rhoi meincnod i AGC ac AGIC fonitro'r cynnydd a wneir gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd, ac ysgogi gwelliant i blant anabl a'u teuluoedd.
Rwy'n falch o weld bod diogelu'n parhau i fod yn flaenoriaeth i awdurdodau lleol a'u partneriaid.
Mae'n hanfodol, yn fwy nawr nag erioed, bod yr holl bartneriaid yn cymryd dull sy'n seiliedig ar hawliau wrth gefnogi plant a'u teuluoedd. Mae hwn yn cynnwys sicrhau bod eu barn yn cael ei hadlewyrchu ym mhob rhan o gynllunio a darparu gwasanaethau.
Hoffwn dalu'r deyrnged i’r ymrwymiad rhagorol a ddangosir gan ymarferwyr sy'n gweithio gyda phlant ond mae'n rhaid inni sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi'n dda a bod ganddynt yr amser a'r cyfleoedd i sicrhau ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Ein canfyddiadau:
Gweler ein hadroddiad llawn, gan gynnwys ein prif ganfyddiadau, isod.