Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn

‘Gadewch i mi ffynnu’ Adolygiad cenedlaethol o gymorth cynnar, gofal a chefnogaeth a’r trefniadau trosglwyddo i blant anabl yng Nghymru

Gwnaethom edrych ar ba mor dda mae awdurdodau lleol, yn gweithio gyda'u partneriaid, yn darparu cymorth cynnar, gofal a chefnogaeth ar gyfer plant anabl.

Yr hyn a wnaethom

Cychwynnodd y rhaglen adolygu genedlaethol fis Tachwedd 2019. Gwnaethom ystyried pa mor dda yr oedd plant anabl yn cael eu cefnogi i gyrraedd eu potensial llawn a sut yr oedd gweithwyr proffesiynol a sefydliadau gwahanol yn gweithio gyda'i gilydd, mewn partneriaeth â theuluoedd, i sicrhau bod plant yn cael mynediad at y cymorth cywir, ac yn ei dderbyn, ar yr adeg gywir. Hefyd, gwnaethom adolygu pa mor effeithiol yr oedd awdurdodau lleol wrth sicrhau y gwrandewir ar leisiau plant anabl a'u teuluoedd.

Gweithiom mewn cydweithrediad ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC).

Ein prif ganfyddiadau

Diogelu: Gwelsom fod awdurdodau lleol a'u partneriaid yn cydnabod diogelu fel blaenoriaeth. Roedd tystiolaeth o weithio'n dda ar y cyd i sicrhau bod plant anabl yn cael eu diogelu.

Llesiant: Gwelsom fod diffyg darpariaeth ddigonol o wasanaethau i hyrwyddo llesiant plant anabl. Dywedodd llawer o rieni a gofalwyr wrth ein harolygwyr y byddent hwy, a'u plant anabl, wedi elwa ar wasanaethau a chymorth ychwanegol.

Llais y plentyn: Gwelsom rai enghreifftiau da o'r ymdrechion a wneir gan staff i ddatblygu cydberthnasau proffesiynol gyda phlant anabl a theuluoedd, ond gwelodd arferion amrywiol ledled Cymru ynglŷn â pha mor dda y mae lleisiau a dewisiadau plant anabl yn cael eu ceisio, eu clywed a'u cofnodi.

Asesiadau gofalwyr: Gwelsom fod data a gyflwynwyd gan awdurdodau lleol wedi nodi bod ychydig iawn o rieni/gofalwyr plant anabl wedi derbyn asesiad o'u hanghenion na chynllun cymorth.

Y camau nesaf

Bydd yr adolygiad a'i ganfyddiadau yn rhoi meincnod i AGC ac AGIC fonitro'r cynnydd a wneir gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol, a byddant yn ysgogi gwelliant i blant anabl a'u teuluoedd.

Gweler ein canfyddiadau a'r adroddiad llawn drwy'r ddolen isod.