Skip to main content
Chwiliad allweddeiriau cyflawn
  • 16 Rhagfyr 2021
  • Newyddion

Heddiw rydym wedi cyhoeddi llythyr sy'n crynhoi canfyddiadau ein gweithgarwch monitro ym mis Tachwedd 2021 a wnaed ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol plant Wrecsam

Bwriad y gweithgarwch monitro yw rhoi sicrwydd bod gwasanaethau cymdeithasol plant Wrecsam yn parhau i fod ar daith gadarnhaol o ran gwelliant.

Ym mis Tachwedd, bu inni fonitro gwasanaethau cymdeithasol plant Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i fynd ar drywydd canfyddiadau ein harolygiad ym mis Hydref 2020, a ganfu bod gwasanaethau yn parhau i fod yn annigonol gyda dangosyddion cynnar o welliant.  Mae hynny'n golygu bod gwasanaethau yn methu'n gyson i fodloni dyletswyddau statudol, ond nad oedd y plant heb gymorth ac nad oeddent mewn perygl uniongyrchol o niwed na chamdriniaeth.

Mae cyhoeddiad heddiw yn rhan o'n gwaith parhaus o fonitro Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ac mae'n dilyn ymlaen o'n hadolygiad ym mis Ebrill 2021.

O'r dystiolaeth a gasglwyd yn ystod yr adolygiadau hyn, ein barn yw bod gwasanaethau cymdeithasol plant Wrecsam yn parhau i wneud gwelliannau.

Rydym wedi tynnu sylw'r awdurdod lleol at ein canfyddiadau.  Byddwn yn monitro cynnydd drwy weithgarwch gwerthuso perfformiad parhaus.  Ein bwriad yw ymgymryd ag arolygiad dilynol pellach yn 2022.

I weld ein canfyddiadau a'n hargymhellion, darllenwch y llythyr llawn isod.